Gwirfoddoli
Gwirfoddolwyr
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr helpu staff gyda phrosiectau amrywiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, cysylltwch â ni - hoffem wybod pa feysydd gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddynt a faint o amser sydd gennych i'w gynnig.
Yn anffodus, ni allwn ddarparu ar gyfer pob cais gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Profiad Gwaith
Rydym wedi ymrwymo i alluogi pobl ifanc i gael blas ar fyd gwaith drwy gynlluniau lleoli dynodedig fel lleoliadau ysgol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.
Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau pob blwyddyn ac rydym yn ceisio darparu ar gyfer cynifer o bobl ifanc â phosibl.