Ymholiadau
Ymholiadau ynghylch Casgliadau
• Ydych chi eisiau gwybod mwy am eitem yng nghasgliadau Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd?
• Hoffech chi weld eitem neu ddarn celf nad yw'n cael ei arddangos ar hyn o bryd?
• Ydych chi'n ystyried cyfrannu eitem i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd?
• Neu oes gennych unrhyw ymholiadau eraill yn ymwneud â'r casgliadau?
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad gydag aelod staff i drafod eich ymholiad. Ni allwn dderbyn eitemau ar sail ad hoc mwyach ac ni ellir gadael eitemau gyda staff wrth ddesg y dderbynfa.
Nid ydym bellach yn gallu delio ag ymholiadau ynghylch eitemau nad ydynt yn gysylltiedig â'r casgliadau, na cheisiadau i’w hadnabod.