Displays Museum
Siartiaeth yng Nghasnewydd
Iris and John Fox coollection
Casgliad Iris a John Fox
Into the 20th Century display
Arddangosfa 'I mewn i'r 20fed Ganrif’

Arddangosiadau

Yn newydd o 12 Ebrill! Teithiau Cyflwyno Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

Ymunwch â'n Tîm Blaen y Tŷ ar gyfer teithiau cyflwyno i'r Amgueddfa a'r Oriel Gelf. Cewch drosolwg o'n harddangosfeydd a dysgu am rai o'r uchafbwyntiau. Caiff y teithiau tywys eu cyflwyno’n Saesneg ac maen nhw’n para tua 20 munud. Fe’u cynhelir ar ddydd Gwener am 11am ac ar ddydd Sadwrn am 11am a 2.30pm ac maen nhw’n dechrau o ddesg wybodaeth y Amgueddfa a’r Llyfrgell ar lawr 1.

Mae teithiau cyflwyno hefyd ar gael yn Gymraeg a gellir eu harchebu ar gyfer grwpiau ymlaen llaw. E-bostiwch [email protected] i holi amdanynt.

Mae gan Gasnewydd orffennol diwylliannol cyfoethog a nod arddangosfeydd parhaol yr amgueddfa yw adlewyrchu hyn.

Mae'r arddangosfeydd yn amrywiol ac yn defnyddio'r holl bynciau a gynrychiolir yn y casgliadau.

Gallwch archwilio’r Gasnewydd gynhanesyddol a rhamantus yn y brif oriel ar y llawr 1af lle gallwch hefyd ddysgu am fywyd canoloesol a Llong Casnewydd.

Gallwch ddysgu am Siartiaeth a'i hetifeddiaeth, treftadaeth ddiwydiannol y ddinas a dilyn datblygiad Casnewydd i'r 20fed Ganrif.

Mae'r arddangosfeydd bywyd gwyllt yn dangos amrywiaeth o anifeiliaid y gallech ddod o hyd iddynt yn eich cartref a'ch gardd.

Ewch i falconi'r Amgueddfa i ddysgu am orffennol daearegol yr ardal a Phont Gludo Casnewydd. 

Mae'r balconi hefyd yn gartref i'r Parth Darganfod ac Atgofion Casnewydd, arddangosfa ffotograffig sy'n cynnwys delweddau o orffennol y Ddinas.

Mae oriel gelf y 3ydd llawr yn fan lle gallwch archwilio casgliadau celf parhaol Casnewydd ac ymweld â'r gofod arddangosfeydd dros dro.

Mae'r Amgueddfa a'r Oriel Gelf hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau – dysgwch be sy’ mlaen.