Collecting
Casged ryddid, J.H. Thomas
Collecting
Potiau Rhufeinig wedi’u hail-greu
'Newport, South Wales', George Stainton
'Newport, South Wales', George Stainton

Casglu

Rydym yn gweithio i wneud y wefan hon yn ddwyieithog ac yn ystod y cyfnod hwn efallai na fydd rhai swyddogaethau ar gael dros dro.  Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Un o brif swyddogaethau amgueddfeydd yw casglu gwrthrychau sy'n dod o fewn eu cylch gwaith casglu ac mae cylch gwaith Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi'i nodi yn y Polisi Datblygu Casgliadau (pdf).

Mae gan amgueddfa Casnewydd draddodiad hir o weithio gyda phobl a sefydliadau lleol i gronni rhai o'r casgliadau pwysicaf a mwyaf diddorol yng Nghymru. Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Casnewydd yn gofalu am dros 60,000 o wrthrychau a chasgliadau ar wahân o wrthrychau.

Casglu heddiw

Mae gan ran fwyaf y pethau a gasglwn gysylltiad ac arwyddocâd lleol cryf â Chasnewydd a'i thrigolion.

Oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau a chylch gwaith casglu sydd wedi'i ddiffinio'n glir, ni ellir ychwanegu popeth y cawn ei gynnig at y casgliadau parhaol.

Bydd staff curadu yn asesu arwyddocâd ac addasrwydd pob rhodd a phryniant posibl yn ofalus.

Ystyrir cyfyngiadau ar gasglu oherwydd ffactorau fel staffio, storio a gofod arddangos ac adnoddau eraill. Cysylltwch â ni ymlaen llaw os hoffech drafod rhodd bosibl.

Dyletswydd gofal

Fel ceidwaid y casgliadau, mae gan Amgueddfa Casnewydd ddyletswydd gofal hirdymor i'r gwrthrychau.

Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am ofalu am y casgliadau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

Mae llawer o'r gwaith hwn yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni ac mae'n cynnwys gweithgareddau fel cadwraeth ataliol (darparu amgylchedd lle gellir lleihau niwed i wrthrych gan amodau allanol e.e. gan blâu neu wrth drin â llaw) a dogfennau.

Gwyliwch y ffilm hon i gael gwybod mwy am sut mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn gofalu am y casgliadau.

Dogfennaeth

Mae'r ddyletswydd gofal hon hefyd yn ymestyn i wybodaeth gefndir gwrthrychau a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod cyd-destunau gwrthrychau, yn ogystal â'r gwrthrychau eu hunain, yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn gwneud hyn drwy gadw cofnodion dogfennol o'r holl wrthrychau sydd yn y casgliad.

Rhoddir cyfeirnod unigryw i bob gwrthrych sy'n mynd i mewn i'r casgliad – rydym yn ei alw'n rhif derbyn – sy'n ei gysylltu â’r wybodaeth gysylltiedig.

Mae prosiect rhestr casgliadau ar y gweill i sicrhau bod cofnodion yr amgueddfa’n gyfoes a bod pob gwrthrych wedi'i restru yn ein cronfa ddata electronig. Bydd hyn yn galluogi staff yr amgueddfa i gael gweld y gwrthrychau a’r wybodaeth berthnasol yn haws a chael ymateb cyflym i ymholiadau.