Comisiwn Tegwch Casnewydd
Mae Comisiynau Tegwch yn gyrff annibynnol a sefydlwyd gan gynghorau i'w cynghori ar y defnyddiau gorau o adnoddau a phwerau i gyflawni'r canlyniadau tecaf ar gyfer y bobl leol.
Cyfarfu'r Comisiwn Tegwch Casnewydd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2012, y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Ei rôl yw cadw materion yn ymwneud â thegwch ar yr agenda cyhoeddus ac i fonitro a rhoi cyngor ar sut gaiff y materion hyn eu hystyried mewn penderfyniadau a pholisïau'r Cyngor.
Mae hyn wedi digwydd o fewn cyd-destun y problemau sydd angen rhoi sylw iddynt gan y ddinas yn ei chyfanrwydd - sef gweinyddu toriadau difrifol i gyllid llywodraeth leol, a waethygir gan y galw cynyddol oherwydd demograffeg, disgwyliadau'n cynyddu a phwysau cyllidebol eraill.
Rhoddir mwy o wybodaeth ynghylch cefndir ac aelodaeth Comisiwn Tegwch Casnewydd yn y cylch gorchwyl (pdf)