Goleuadau Stryd

Report street light problem

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal 18,500 o unedau golau stryd a 3,000 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo.

Rhoi gwybod am broblem

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl fel bod modd unioni problem yn gyflym. Dylech gynnwys:

Rhif adnabod unigryw pob uned, sydd fel arfer ar siafft y golofn oleuo, sy'n dechrau gyda 2 lythyren ac yna rhifau.

lleoliad, e.e. tu allan i rif 26 enw'r stryd neu lwybr troed problem benodol, e.e. lamp sydd wedi diffodd, sy’n egwan, sy’n gwyro ac ati

Rhoi gwybod am broblem gyda goleuadau stryd

Caiff problemau goleuadau stryd fel arfer eu datrys o fewn 5 diwrnod gwaith, yn dibynnu ar y broblem, ond os ystyrir golau stryd diffygiol yn beryglus, byddwn yn ymateb i’r gŵyn o fewn dwy awr i unioni’r sefyllfa.

Os yw’r nam o ganlyniad i fethiant cebl rhwydwaith ar rwydwaith ceblau’r bwrdd trydan, caiff ei drosglwyddo i Wester Power Distribution a fydd fel arfer yn trwsio’r broblem o fewn 30 diwrnod.

Cynllun goleuo rhannol

Mae’r holl oleuadau stryd yn y ddinas, ac eithrio goleuadau yng nghanol y ddinas a’r rhai mewn lleoliadau fel cyffyrdd mawr neu groesfannau rheoledig i gerddwyr, bellach ar gynllun goleuo am ran o’r nos, sy’n golygu eu bod yn cael eu diffodd rhwng hanner nos a 6am.

Yn flaenorol, roedd gan y cyngor oleuadau amgen ar y cynllun rhan o’r nos i leihau allyriadau carbon ac arbed arian. Mae hyn bellach wedi'i ymestyn i holl oleuadau stryd, cam a fydd yn lleihau ein hallyriadau carbon 198.5 tunnell y flwyddyn.

Mae'n ostyngiad o 5.2% mewn allyriadau carbon o'r trydan y mae'r cyngor yn ei ddefnyddio, ac oddeutu arbediad o £200,000 y flwyddyn ar gost y trydan hwnnw.

Bydd goleuadau yn parhau mewn ardaloedd allweddol yng nghanol y ddinas drwy'r nos, ac mewn lleoliadau fel:

  • cylchfannau mawr
  • cyffyrdd signal traffig
  • ardaloedd arafu traffig
  • croesfannau cerddwyr rheoledig (e.e. croesfannau sebra a phelican)
  • cyffyrdd ar ffyrdd 40mya a 50mya

Gwnaed y symudiad i ymestyn y cynllun rhan o’r nos i bob stryd fel rhan o'r broses o bennu cyllideb y cyngor ar gyfer 2023/24. Ymgynghorwyd arno fel rhan o'r ymgynghoriad ar y gyllideb, lle roedd dros 60 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r cwestiwn golau stryd yn cefnogi'r symud.

Nid oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol yn y DU i ddarparu goleuadau cyhoeddus, ac nid yw'r cyngor yn ei ddarparu at ddibenion goleuadau diogelwch neu oleuo mynediad neu allanfa i eiddo.