Tyllau ffyrdd

Cyngor Dinas Casnewydd sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r holl briffyrdd a fabwysiedir yn ardal Casnewydd, gan gynnwys troedffyrdd, ffyrdd cerbydau a'r asedau priffordd sy'n gysylltiedig â nhw.

Rhoi gwybod am broblem

Pan roddir gwybod am broblem, cynhelir arolwg o fewn 5 diwrnod gwaith a chaiff tyllau eu trwsio yn unol â gweithdrefnau rheoli risg yr awdurdod, yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw Priffyrdd.

Rhoi gwybod am dyllau ffordd

Arolygiadau

Bydd tîm o arolygwyr yn cynnal arolygon rheolaidd ar yr holl briffyrdd a fabwysiedir, gan gynnwys gwaith a wnaed gan gwmnïau cyfleustodau.

Trwsio, cynnal a chadw

Gwneir gwaith trwsio fel rhan o waith arferol ar briffyrdd ac i ymateb i broblemau sy'n codi.