Trafnidiaeth Cymunedol

Mae trafnidiaeth gymunedol yn helpu trigolion Casnewydd sy’n methu defnyddio gwasanaethau bws lleol un ai oherwydd anabledd neu am eu bod nhw’n byw'n rhy bell o’r gwasanaeth bws rheolaidd.

Caiff trafnidiaeth gymunedol yng Nghasnewydd ei gweithredu gan wasanaeth Grass Routes Cyngor Sir Fynwy, cynllun cymunedol sefydledig sy’n darparu gwasanaeth ffonio am reid. 

Darllen mwy a chofrestu gyda Grass Routes

Dylai trigolion cymwys Casnewydd ffonio Grass Routes ar 0800 0858015 i drefnu trafnidiaeth. 

Mae’r holl seddi a thrafnidiaeth yn amodol ar nifer y lleoedd sydd ar gael ac mae Grass Routes yn derbyn pàs bws ffioedd consesiynol Cymru Gyfan.