Gwasanaethau Bws

Traveline Cymru

Traveline Cymru ydy’r gwasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru sy’n cynnwys teithiau bws a thrên.

Ffoniwch 0300 200 2233 i gael amserlen a gwybodaeth am gynllunio taith, codir tâl ar y gyfradd leol am alwadau.

Trafnidiaeth Casnewydd yw’r prif ddarparwr gwasanaethau bws yn y ddinas.

Gwasanaethau Bws Fflecsi 

Daeth cynllun peilot bws fflecsi ar gyfer Casnewydd i ben ar 25 Medi 2022 ar ôl cyfnod llwyddiannus o 12 mis o dreialu teithio sy’n ymateb i’r galw mewn amgylchedd trefol. 

 

Pas Bws i Bobl dros 60 oed

Fy Ngherdyn Teithio - 16-21 oed

Mae Trafnidiaeth sy’n Ymateb i Galw Casnewydd yn gweithredu rhwng Llangadwaladr Trefesgob, Y Redwig,Pentref Llanwern a chanol dinas Casnewydd a pharc manwerthu Spytty.

Ffoniwch (01633) 211202 rhwng 9am a 5pm i gadw sedd gan roi eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, man casglu, amser casglu, manylion y daith a nifer y bobl sy’n teithio. 

Lawrlwythwch y daflen Trafnidiaeth sy'n Ymateb i'r Galw (pdf) i weld y manylion llawn.

Darllenwch am y cynllun trafnidiaeth cymunedol Grass Routes  (Welsh pdf needed)

Mae bysus National Express yn cysylltu Casnewydd gyda threfi, dinasoedd a meysydd awyr y DU.