Maes Parcio Park Square
Mae gan faes parcio aml-lawr Park Square 395 o leoedd parcio gyda rampiau llydan a lifftiau i’r stryd fawr, gyda mynediad hawdd i siopau.
Mae saith lle parcio i bobl anabl.
Mae staff ar y safle o 9am tan 7pm.
Amseroedd agor
Dydd Llun – Dydd Sadwrn: 7am – 7pm, ar gau ar ddydd Sul.
Mae’r mynedfeydd yn cau am 6pm ac mae’r allfeydd yn cau am 7pm.
Cyfarwyddiadau
Gerllaw Eglwys Sant Paul, mae’r fynedfa i faes parcio Park Square o Commercial Street/Palmyra Place.
Gweld meysydd parcio ar fap My Newport
Prisiau
Hyd at 3 awr = £2.50
Hyd at 5 awr = £4.50
Dros 5 awr a hyd at 24 awr = £6.00
Telir ag arian parod yn unig trwy beiriannau yn y maes parcio