Maes Parcio Canolfan Ffordd y Brenin

Mae gan Ganolfan Parcio Ceir Aml-lawr Ffordd y Brenin 1050 o lefydd.

Mae'r maes parcio yn rhoi mynediad uniongyrchol i ardal siopa canol y ddinas, Campws Dinas Casnewydd Prifysgol De Cymru a llyfrgell ganolog, amgueddfa ac oriel gelf Casnewydd.

Trwyddedau a Chostau

  • Misol: £78 Defnydd anghyfyngedig 7 diwrnod yr wythnos
  • Chwarterol: £234 Defnydd anghyfyngedig 7 diwrnod yr wythnos
  • 6 Misol: £468 Defnydd anghyfyngedig 7 diwrnod yr wythnos
  • Blynyddol: £936 Defnydd anghyfyngedig 7 diwrnod yr wythnos

Byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost cyn gynted ag y bydd y drwydded yn barod i'w chasglu.

Bydd y casgliad yn dod o'r ciosg ym Maes Parcio Ffordd y Brenin ei hun.

Byddwch yn ymwybodol bod angen o leiaf 2 ddiwrnod gwaith arnom i roi trwydded ar ôl cyflwyno'r ffurflen wedi'i chwblhau.

Trwydded Parcio Car Ffordd y Brenin

Oriau Agor

Dydd Llun i ddydd Sul, 6am - hanner nos.

Cyfarwyddiadau

Mynediad i geir i faes parcio Canolfan Ffordd y Brenin oddi ar Emlyn Street oddi ar yr A4042 (Usk Way)

Defnyddier NP20 1EU i’r llywiwr lloeren.