Adolygiad Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Roedd yr ymgynghoriad yn gorffen ym mis Tachwedd 2021

Allwch chi ein helpu i lunio dyfodol teithio llesol yng Nghasnewydd?

Rydym wrthi’n ymgynghori â thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol ar ein map rhwydwaith teithio llesol drafft terfynol (MRhTLl).

Yn gynharach eleni, gofynnwyd am eich barn ar sut y gellir gwella'r ddarpariaeth beicio a cherdded yng Nghasnewydd.  Rydym wedi ystyried yr holl sylwadau'n ofalus ac wedi cyfuno'r farn gyhoeddus hon ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall i gynhyrchu MRhTLl drafft.

Cawsoch gyfle i ddweud eich dweud ar ein map drafft cychwynnol yn ôl ym mis Mai. Bellach, rydym wedi ystyried adborth pellach ac wedi cynhyrchu map drafft terfynol.

Mae'r map drafft terfynol ar gael i'w weld ar ein safle Commonplace. Gallwch ddweud eich dweud ar lwybrau arfaethedig a llenwi holiaduron byr ar deithio llesol ym mhob ward ar draws y ddinas. 

Dyma ein hymgynghoriad cyhoeddus statudol llawn ar y rhwydwaith drafft diwygiedig cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ym mis Rhagfyr. 

I ddweud eich dweud ar y map drafft, cliciwch y botwm isod i ymweld â'n safle Commonplace.  

RHOWCH EICH BARN NAWR