Cymorth a chyngor
Gall Cyngor Dinas Casnewydd a'n partneriaid gynnig cyfoeth o gyngor a chymorth – o gymorth gyda biliau, i gymorth i ddod o hyd i waith neu gael hyfforddiant. Os ydych yn cael trafferth yn ariannol, dysgwch fwy isod a chysylltwch â ni.
Edrychwch ar ein tudalen 'sut gallwn ni helpu' i ddarganfod pa gymorth y gall y cyngor ei gynnig yn uniongyrchol.
Mae gan ein partneriaid a sefydliadau eraill hefyd amrywiaeth o gymorth a chyngor ar gael. Gallwch ddod o hyd i fanylion am hyn ar ein tudalen 'Sut y gall eraill helpu'.
Os oes angen cyngor neu wybodaeth arnoch ac na allwch ddod o hyd iddo ar y tudalennau hyn, e-bostiwch [email protected] a byddwn yn ei drosglwyddo i un o'n timau neu sefydliad arall y credwn y gallai eich helpu.
Byw'n ddoeth, yn bod ddoeth
Bydd staff a phartneriaid y Cyngor yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd mewn lleoliadau ledled y ddinas i roi cyngor ar gyllidebu, rheoli biliau trydan/nwy/dŵr, rhent a llawer mwy.
Cynhelir y rhan fwyaf o sesiynau, sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rhwng 4pm a 6pm (oni nodir yn wahanol).
E-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am leoliadau ac amseroedd.
Digwyddiadau sydd i ddod:
- Tŷ Cymunedol Eton Road: 20 Chwefror a 19 Mawrth 4.30pm-6.30pm
- Canolfan Gymunedol Shaftesbury: 21 Chwefror a 20 Mawrth 4pm-5.30pm
- Canolfan Beaufort, Sain Silian: 22 Chwefror a 21 Mawrth
- Canolfan Gymunedol Ringland: 27 Chwefror a 9 Ebrill
- Canolfan Gobaith Somerton: 28 Chwefror a 10 Ebrill
- Canolfan Gymunedol Alway: 29 Chwefror a 11 Ebrill
- Canolfan Gymunedol Dwyrain Casnewydd (Parc y Morfa): 5 Mawrth
- Canolfan Gymunedol Maesglas: 6 Mawrth
- Canolfan Mileniwm Pilgwenlli: 7 Mawrth
- Canolfan Gymunedol Maesglas: 12 Mawrth
Gofodau cynnes cymunedol
Mae grwpiau cymunedol ledled Casnewydd wedi derbyn grantiau i'w helpu i gynnal gofodau cynnes er mwyn cynnig amgylchedd diogel, croesawgar a chyfforddus i breswylwyr a allai fod yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi neu sydd mewn perygl o ynysu.
Mae mwy o fanylion ar ein dudalen sesiynau croeso cynnes.