Anghenion Addysgol Arbennig
Mae pob plentyn yn datblygu ac yn dysgu ar gyfradd wahanol, mae rhai plant yn ei chael hi'n hawdd dysgu, mae rhai yn ei chael hi'n anodd ac mae rhai a fydd angen mwy o gymorth o bosibl.
Gyda'r cymorth cywir a gwahanol arddulliau addysgu bydd pob plentyn yn datblygu ar eu cyflymder eu hunain.
Os ydych chi neu'r ysgol yn pryderu nad yw eich plentyn yn gwneud cynnydd, mae'n bosibl y bydd ganddynt anghenion addysgol arbennig (AAA).
Mae tîm AAA Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi cyngor, cymorth a hyfforddiant i staff ysgol, rhieni a disgyblion er mwyn sicrhau pontio cadarnhaol i ddisgyblion.
Bydd cydlynydd AAA eich plentyn yn helpu i benderfynu a oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig.
Gall asesu cryfderau a gwendidau eich plentyn a chynghori a chefnogi aelodau eraill o staff sy'n ymwneud â'ch plentyn.
Darllenwch daflen eiriolaeth SNAP Cymru (pdf)
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r cydlynydd AAA yn ysgol eich plentyn neu anfonwch e-bost at inclusion.enquiries@newport.gov.uk a bydd y tîm cynhwysiant addysg yn cysylltu â chi.