Adolygiad blynyddol AAA
Rhaid adolygu Datganiad plentyn bob blwyddyn neu bob chwe mis ar gyfer plant dan bump oed.
Fel arfer, cynhelir y cyfarfod adolygu blynyddol yn ysgol y plentyn a gwahoddir pawb dan sylw neu gofynnir iddynt anfon sylwadau ysgrifenedig.
Mae'n bwysig iawn bod rhiant neu warcheidwad plentyn yn mynychu'r cyfarfod adolygu.
Yn y cyfarfod bydd unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r plentyn yn cael eu cofnodi, a thrafodir cynnydd y plentyn.
Bydd y cyfarfod yn ystyried a yw'r Datganiad yn dal yn briodol.
Ar ddiwedd yr adolygiad, dylid bod wedi cytuno ar set glir o dargedau i'r ysgol a'r plentyn weithio tuag atynt.
Cynhelir adolygiadau pontio ym mlynyddoedd 1, 5 a 9 wrth i'r plentyn symud i'r ysgol iau, yr ysgol uwchradd ac o'r ysgol i fywyd fel oedolyn.
Bydd adroddiad sy'n crynhoi'r cyfarfod adolygu blynyddol yn cael ei anfon at bawb a fynychodd y cyfarfod ac at y cyngor.
Yn y cyngor, byddwn yn cysylltu â'r rhiant neu warcheidwad i roi gwybod a ydym yn cytuno â'r argymhellion, a byddwn yn gofyn a oes unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth neu'r lleoliad.
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cydlynydd AAA yn ysgol eich plentyn neu anfonwch e-bost at inclusion.enquiries@newport.gov.uk a bydd y tîm cynhwysiant addysg yn cysylltu â chi.