Prydau ysgolion cynradd

Mae cinio yn brif bryd poeth gyda phwdin, gydag opsiwn i ddisgyblion ar ddiet llysieuol neu halal ac mae detholiad o lysiau, ffrwythau ffres, iogwrt a chaws ar gael.

Mae dŵr ar gael am ddim ac mae pob disgybl mewn ysgolion meithrin a babanod yn derbyn traean o beint o laeth am ddim bob dydd.

Mae prif bryd a phwdin mewn ysgol gynradd yn costio £2.15.

Gweld mwy o wybodaeth ar wefan Chartwell.

Edrychwch ar ddewislen Gwanwyn/Haf 2023

Mae opsiynau llysieuol a halal ar gael bob amser.

Dylai disgyblion sydd â gofynion dietegol arbennig ofyn i'w meddyg teulu am eu cyfeirio at y dietegydd pediatrig, a fydd yn cysylltu â'r gwasanaeth prydau ysgol os bydd angen.