Prydau ysgol am ddim

Ymestyn prydau ysgol am ddim 

Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ymestyn argaeledd prydau ysgol am ddim. Y nod yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Os nad ydych eisoes yn hawlio cymorth ychwanegol ac yn meddwl y gallech fod yn gymwys, gweler isod am fanylion a sut i wneud cais.

O fis Medi 2023, bydd holl ddisgyblion cynradd Casnewydd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn gallu cael pryd ysgol am ddim.

Prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â’r cynllun talebau gwyliau i ben ar gyfer rhai sy’n derbyn budd-daliadau penodol.

Gwybodaeth arall am gymorth a chyngor.

Plant yn y dderbynfa, blwyddyn 1 a blwyddyn 2 

Sut bydd fy mhlentyn yn derbyn y prydau hyn?

Bydd disgyblion yn gallu cael prydau yn uniongyrchol drwy eu hysgol ar ddechrau'r tymor. Does dim rhaid gwneud cais i gael pryd ysgol am ddim.

Pa gymorth arall sydd ar gael?

Gall teuluoedd sydd wedi bod yn gymwys yn draddodiadol i gael prydau ysgol am ddim gael cymorth ychwanegol o hyd ond rhaid iddynt wneud cais i'r Cyngor. 

Grant handfodol ysgol

Gostyngiad ar deithiau ysgol

Arian ychwanegol i'r ysgol

Mae hyn yn ddibynnol ar yr incwm a gewch ac mae'n amodol ar rai meini prawf cymhwysedd fel y nodir isod.  Os ydych yn credu y gallai fod gennych hawl i'r gefnogaeth hon, gwnewch gais.

Gwneud Cais

Sylwer: Dim ond os nad yw eich plentyn eisoes â hawl i gael cinio ysgol am ddim y bydd angen gwneud cais am gymorth ychwanegol.  Os yw eich plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim (cyn mis Medi 2022) bydd y rhain yn cael eu cyflwyno'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd.  Gallwn wirio'ch cymhwysedd am y cymorth ychwanegol heb fod angen i chi ailymgeisio.

Os na allwch gwblhau cais ar-lein, gellir lawrlwytho ffurflen bapur. Mae ffurflenni papur ar gael drwy [email protected] neu 01633 987754. 

Os oes gan eich plentyn ofyniad deietegol arbennig, gofyniad diagnosis meddygol, llenwch ffurflen gais deiet meddygol, sydd ar gael gan eich ysgol.

Meini prawf cymhwysedd

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Gymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant (rhaid i’r incwm blynyddol fod yn llai na £16,190 ar gyfer y cartref)
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Budd-dal Cymorth Ceiswyr Lloches Cenedlaethol
  • Credyd Cynhwysol hyd at Fawrth 2019
  • ;O 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol, ar yr amod nad yw’r aelwyd yn ennill incwm net blynyddol sy’n fwy na £7,400 (fel yr aseswyd trwy edrych ar enillion o hyd at dri o’r cyfnodau asesu diweddaraf).

Sylwer: os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith, NI fyddwch yn gymwys i dderbyn y cymorth ychwanegol y manylir uchod 

Costau byw: dysgwch fwy am gymorth a chyngor arall sydd ar gael yng Nghasnewydd 

 

Hysbysiad preifatrwydd - Prydiau ysgol am ddim (pdf)