Ffioedd cludiant ysgol

Cymeradwyodd aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros addysg a phobl ifanc weithredu polisi codi taliadau teg ar fyfyrwyr ôl-16 mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol ym mis Mehefin 2013.

Mae myfyrwyr ôl-16 sy'n gymwys i gael cymorth â theithio o'r cartref i'r ysgol yn gymwys i gael grant teithio disgresiynol o £150 y flwyddyn academaidd tuag at eu costau teithio o'r cartref i'r ysgol.

Mae cyfran fawr o fyfyrwyr ôl-16 yn defnyddio Newport Transport ac mae cynllun ar waith sy'n caniatáu i fyfyrwyr brynu tocyn tymor blynyddol a defnyddio'r grant teithio i dalu tuag ato. Ar hyn o bryd, mae Newport Transport yn codi £497 am docyn tymor blynyddol, felly gall y myfyriwr ei brynu am £347.

Fodd bynnag, nid yw myfyrwyr eraill yn gallu mynd i'r ysgol yn eu dalgylch nac i'r ysgol agosaf sydd ar gael gan ddefnyddio gwasanaethau Newport Transport, gan fod cludiant yn cael ei ddarparu trwy wasanaeth dan gontract. Mae'r cyngor yn gwahodd tendrau amdano o dan ei drefniadau fframwaith. Mae myfyrwyr sy'n teithio i'r ysgol fel hyn yn gymwys ar gyfer y grant teithio o £150, a rhaid iddynt dalu ffi ychwanegol at gost y sedd. Nid yw'r costau hyn wedi cael eu diwygio ers nifer o flynyddoedd ac, o ganlyniad, telir ffi ychwanegol o £45 y flwyddyn academaidd yn unig.

Mae hyn yn golygu bod gwahaniaeth mawr rhwng y costau cludiant sy'n cael eu talu gan fyfyrwyr ôl-16, yn dibynnu'n llwyr ar ble maen nhw'n byw a ble maen nhw'n mynd i'r ysgol.

Mae'r Tîm Cludiant Teithwyr wedi cyfrifo y byddai cost wirioneddol sedd ar fws dan gontract rhwng £730 a £750 y flwyddyn. Felly, mae myfyrwyr ôl-16 sy'n defnyddio cludiant fel hyn i'r ysgol yn elwa'n sylweddol o gostau cludiant is o lawer. Y cyngor sy'n talu cost y cymhorthdal hwn, sydd tua £91,000 y flwyddyn, yn ôl amcangyfrifon.

Byddai cynyddu'r gost i'r myfyrwyr hyn yn unol â'r swm ychwanegol sy'n cael ei dalu gan fyfyrwyr sy'n defnyddio gwasanaethau Newport Transport yn gostwng y cymhorthdal ariannol i ryw £42,000 a byddai'r myfyrwyr yn talu £347 o ganlyniad. Daw'r newid hwn i rym ar ddechrau tymor yr hydref 2014.

Byddai codi cost lawn y sedd mewn cerbyd dan gontract ar y myfyriwr yn dileu'r angen am gymhorthdal. Fodd bynnag, byddai'r myfyrwyr hyn o ganlyniad yn talu cost o ryw £600 y flwyddyn am deithio i'r ysgol - cynnydd sylweddol o'i gymharu â'r £45 sy'n cael ei godi yn awr.

Mae'r cyngor yn cydnabod y gallai cost mor sylweddol achosi caledi ariannol i rai teuluoedd ac mae wedi cytuno ar raglen weithredu fesul cam, a fydd yn dileu'r cymhorthdal yn llawn erbyn mis Medi 2017.

Y Cynghorydd Bob Poole, Aelod y Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc