COVID-19: Trafnidiaeth ysgol

SchoolTransport no text

Rydym yn deall y gall teuluoedd fod yn bryderus am drafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol yn ystod pandemig COVID-19.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau a bydd y cyngor yn gweithio yn unol â’r canllawiau hyn.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr i ailsefydlu gwasanaethau trafnidiaeth ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd o fis Medi 2020 ymlaen ac rydym yn hyderus y bydd darpariaeth ar gael i bob plentyn sydd â hawl i drafnidiaeth am ddim.

Gall nifer y seddi sydd ar gael barhau i fod yn gyfyngedig. 

Anogir rhieni a gofalwyr i fynd â phlant i'r ysgol trwy gerdded neu feicio, neu mewn car preifat, yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth ysgol benodol.  Rydym yn deall na fydd hyn yn bosibl i rai pobl.

Llwybrau trafnidiaeth ysgol  

Ein nod yw cynnal pob llwybr trafnidiaeth ysgol er y gall rhai gael eu hailddyrannu oherwydd niferoedd.

Byddwch yn cael eich hysbysu o unrhyw newidiadau i’ch llwybr.

Ar gyfer disgyblion sydd eisoes yn cael trafnidiaeth ysgol am ddim neu sydd wedi sefydlu trefniadau newydd ar gyfer mis Medi, bydd y llwybrau trafnidiaeth ysgol prif ffrwd yn parhau i weithredu fel yr oeddent cyn pandemig COVID-19.

Os nad oedd trafnidiaeth eisoes yn cael ei darparu neu os nad ydych wedi derbyn cadarnhad erbyn 31 Awst 2020 bod sedd am ddim wedi cael ei neilltuo i’ch plentyn, rhaid i chi e-bostio [email protected]  

Er mwyn sicrhau nad oes gorlenwi, dim ond teithwyr a enwir ac sydd wedi cael cymeradwyaeth ymlaen llaw i deithio, neu'r rhai â thocynnau bws ysgol uwchradd ar gyfer y llwybr, a ganiateir i ddefnyddio trafnidiaeth.

Bydd gan yrwyr restrau o ddisgyblion a neilltuir i'w cerbyd bob dydd.  

Bydd y polisi 'dim pàs, dim teithio' yn cael ei orfodi'n llym ar gyfer cerbydau ysgolion uwchradd, a bydd y rhai nad ydynt yn gymwys i deithio yn cael eu gwrthod.

Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol   

Ein nod yw darparu'r un llwybrau trafnidiaeth i Ganolfannau Adnoddau Dysgu, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ysgolion arbennig, er y gallai nifer y seddi sydd ar gael fod yn gyfyngedig.  

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu cymorth a lle bo modd byddwn yn ceisio defnyddio'r un contractwr, gyrrwr a chynorthwyydd teithio.

Bydd cynorthwywyr teithio yn cael eu darparu i sicrhau bod teithwyr yn eistedd yn y lle cywir ac yn ddiogel.

Efallai y bydd angen i ni ddarparu cerbydau mwy o faint i alluogi cadw pellter cymdeithasol.

Anogir rhieni a gofalwyr i fynd â phlant i'r ysgol trwy gerdded neu feicio, neu mewn car preifat, yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth ysgol benodol.  

Rydym yn deall na fydd hyn yn bosibl i rai pobl. 

Rydym wedi cysylltu â rhai rhieni wedi ynghylch cyllidebau trafnidiaeth personol i’r rhai sydd am gludo eu plant eu hunain. E-bostiwch [email protected] os na chysylltwyd â chi ond yr hoffech chi gael mwy o wybodaeth. 

Seddi consesiynol

Ar hyn o bryd ni allwn gynnig seddi consesiynol (y telir amdanynt) i ddisgyblion nad oes ganddynt hawl i drafnidiaeth ysgol am ddim.  

Y rheswm am hyn yw mesurau y mae'n rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau bod disgyblion yn cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel.  

Gan mai prin yw nifer y seddi sydd ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i fynd â'u plant i'r ysgol trwy gerdded, beicio, mynd ar sgwter neu deithio mewn gar.  

Byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon ym mis Hydref 2020.

Newidiadau i’r daith ysgol  

Efallai bydd trafnidiaeth ysgol yn wahanol pan fydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol. Mae newidiadau posibl yn cynnwys teithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff trafnidiaeth a gwisgo cyfarpar diogelu personol megis masgiau a feisorau.  

Dylai rhieni, gofalwyr a phlant gadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.

Esboniwch wrth y plant pa mor bwysig yw dilyn rheolau hylendid da a chadw pellter cymdeithasol, gan y bydd hyn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gadw pawb yn ddiogel.   

Dylid dangos i'r plant sut i sicrhau eu gwregysau diogelwch er mwyn lleihau cyswllt personol cymaint â phosibl.

Dilynwch ac eglurwch y rhagofalon hyn i'ch plentyn i'w helpu i baratoi:

  • Peidiwch â theithio os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, neu os ydych yn hunan-ynysu o ganlyniad i symptomau COVID-19 neu'n rhannu cartref â rhywun sydd â symptomau neu sy'n agored iawn i niwed yn glinigol
  • Ystyriwch a oes wir angen defnyddio trafnidiaeth ysgol
  • Golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu diheintiwch eich dwylo cyn gadael y tŷ ac wrth adael yr ysgol
  • Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth bobl y tu allan i’ch aelwyd trwy gydol y daith i’r ysgol, gan gynnwys wrth y safle bws ac ar y cerbyd
  • Ceisiwch osgoi dod i gysylltiad ag eraill
  • Bydd ffenestri ar agor at ddiben awyru ar gerbydau
  • Trowch rhag pobl eraill wrth ddefnyddio trafnidiaeth
  • Ceisiwch leihau nifer yr arwynebau rydych yn eu cyffwrdd, gan osgoi cyffwrdd arwynebau megis rheiliau llaw a silffoedd ffenestri yn benodol
  • Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb
  • Treuliwch gyn lleied o amser â phosibl yn agos i eraill wrth ddefnyddio trafnidiaeth ysgol 
  • Peidiwch â bwyta nac yfed ar drafnidiaeth ysgol
  • Ewch ar y bws o'r cefn i'r blaen a cheisiwch eistedd yn yr un sedd bob dydd
  • Gwisgwch orchudd wyneb os ydych yn 11 oed neu’n hŷn

Gallai gwrthod cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, hylendid da a chadw pellter cymdeithasol amharu ar hawl eich plentyn i le ar drafnidiaeth ysgol. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth wrth atgyfnerthu'r negeseuon hyn yn fawr.  

Cadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb

Gorchuddion wyneb

Pan nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol rhwng teithwyr, cyngor Llywodraeth Cymru yw defnyddio gorchuddion wyneb anfeddygol â thair haen.

Mae angen gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus benodol rhwng y cartref a’r ysgol.    

Efallai na fydd yn bosibl i blant iau a’r rhai ag anghenion arbennig wisgo gorchudd wyneb a/neu feisor yn ddiogel.

Bydd angen i blant dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth benodol rhwng y cartref a’r ysgol ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.  

Cadw pellter cymdeithasol

Nid oes angen cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth benodol rhwng y cartref a’r ysgol. Gweler Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Trafnidiaeth Ysgol.

Lle bo modd, dylai disgyblion dros 11 oed barhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd eu hunain.

Caiff trefniadau eistedd eu hystyried yn ofalus yn unol â'r canllawiau ar gyfer trafnidiaeth ysgol a bydd pob cam priodol yn cael ei gymryd i leihau a lliniaru risg ar sail y canlynol:  

  • Mae'r risg gyffredinol i blant a phobl ifanc o COVID-19 yn isel
  • Mae’r drafnidiaeth ysgol yn cludo’r un grŵp o ddisgyblion yn rheolaidd, a gall y disgyblion hynny hefyd fod gyda'i gilydd yn yr ysgol
  • Gall brodyr a chwiorydd eistedd gyda’i gilydd
  • Ni fydd unrhyw un yn eistedd wyneb yn wyneb â rhywun arall
  • Ni fydd cyswllt rhwng disgyblion a theithwyr eraill
  • Bydd ffenestri a thyllau awyr yn y to yn cael eu cadw ar agor 
  • Bydd cyn lleied o gysywllt â phosibl ag unigolion sy'n sâl
  • Dylai pob teithiwr, gan gynnwys y gyrwyr a'r cynorthwywyr teithio, olchi eu dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo cyn mynd ar drafnidiaeth ac wrth gyrraedd yr ysgol neu’r cartref
  • Os oes achos tybiedig neu wedi'i gadarnhau o COVID-19, yna bydd yn hawdd nodi pwy oedd yn teithio ar ba gerbyd, gan helpu i brofi, tracio ac olrhain
  • Bydd trefn lanhau a diheintio trwyadl ar waith cyn ac ar ôl pob taith

Disgwylir i'n cyflenwyr trafnidiaeth ddilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ailgychwyn Trafnidiaeth Gyhoeddus sy'n cynnwys diheintio rheolaidd, glanhau cerbydau'n drylwyr a'r defnydd o gyfarpar diogelu personol.

TRA124197 25/08/2020