Rheoliadau gwaith plant

Mae angen trwydded waith ar bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio tra’u bod o oedran ysgol gorfodol, tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn 16 oed.

Lawrlwythwch Ffurflen gais am Drwydded Waith (pdf) y dylid ei llofnodi gan riant a chyflogwr a'i dychwelyd cyn bydd gwaith yn dechrau.

Pobl ifanc 13-14 oed

  • Diwrnodau ysgol - dim mwy na dwy awr mewn un diwrnod rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr) a rhwng cau'r ysgol a 7pm ddydd Sadwrn - pum awr y dydd rhwng 7am a 7pm, ni chaiff yr un plentyn o unrhyw oed weithio mwy na phedair awr y dydd heb seibiant gorffwys o awr
  • Dydd Sul - dwy awr y dydd rhwng 7am ac 11am
  • Gwyliau ysgol - pum awr ar unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sul rhwng 7am a 7pm (rhaid i chi beidio â gweithio mwy na 25 awr yr wythnos)

Rhaid i chi gael egwyl o bythefnos yn olynol mewn blwyddyn, yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn 13 oed rydych chi’n cael gweithio mewn maes amaethyddol neu arddwriaethol, gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd, gwaith swyddfa, mewn stablau marchogaeth, gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy'n cynnig llety, dosbarthu papurau newydd, siwrnalau a deunyddiau print eraill, salonau trin gwallt, mewn caffi neu fwyty (ond nid mewn cegin).

Yn 14 i 15 oed gallwch weithio fel uchod, ynghyd â masnachu stryd os yw'n cael ei gyflogi a'i oruchwylio gan eich rhieni mewn cysylltiad â'u busnes neu os oes ganddyn nhw drwydded masnachwr stryd.

Pobl ifanc 15 oed

  • Diwrnodau ysgol - dim mwy na dwy awr mewn un diwrnod rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr) a rhwng cau'r ysgol a 7pm, ni chaiff yr un plentyn o unrhyw oed weithio mwy na phedair awr y dydd heb seibiant gorffwys o awr.
  • Dydd Sadwrn - wyth awr y dydd rhwng 7am a 7pm
  • Dydd Sul - dwy awr y dydd rhwng 7am ac 11am
  • Gwyliau ysgol - wyth awr ar unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sul rhwng 7am a 7pm (rhaid i chi beidio â gweithio mwy na 35 awr yr wythnos)

Rhaid i chi gael egwyl o bythefnos yn olynol mewn blwyddyn yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn 16 oed, mae'r cyfyngiadau uchod yn berthnasol tra’ch bod chi’n dal i fod o oedran ysgol gorfodol.

Ni chaiff plentyn weithio:

  • ar ddiwrnod maen nhw i ffwrdd o'r ysgol oherwydd salwch
  • mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawnsio neu glwb nos, oni bai fod hynny'n digwydd mewn cysylltiad â pherfformiad gan blant yn unig
  • gwerthu neu weini alcohol i gwsmeriaid neu ei ddosbarthu
  • dosbarthu llaeth
  • dosbarthu tanwyddau olew
  • mewn cegin fasnachol
  • casglu neu ddidoli gwastraff
  • mewn unrhyw waith sy’n fwy na thair metr uwchlaw’r llawr gwaelod
  • mewn gwaith sy’n eu rhoi mewn sefyllfa lle maen nhw’n agored i gyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol
  • casglu taliadau neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws
  • mewn gwaith sy’n ymwneud â bod yn agored i ddeunydd i oedolion neu mewn sefyllfaoedd a fyddai’n anaddas i blant oherwydd hyn
  • gwerthu dros y ffôn
  • mewn lladd-dy neu ran o siop cigydd neu unrhyw eiddo sy'n ymwneud â lladd da byw, bwtsiera, neu baratoi cyrff neu gig i'w werthu
  • fel gweithiwr neu gynorthwyydd mewn ffair neu arcêd adloniant neu mewn unrhyw eiddo a ddefnyddir at ddibenion adloniant y cyhoedd drwy beiriannau awtomataidd, gemau lwc neu sgil neu ddyfeisiau tebyg
  • mewn gofal personol am breswylwyr mewn unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio oni bai bod hynny o dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol

Hysbysiad preifatrwydd - Trwydded cyflogaeth plant (pdf)