Os bydd plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus, gweithio ar deledu, ffilm, gwaith modelu sy’n talu neu mewn gweithgareddau chwaraeon mae gofyniad cyfreithiol i gael hebryngwr cymeradwy oni bai fo rhiant, gwarcheidwad cyfreithiol neu men rhai amgylchiadau, athro, yn bresennol.
Rhaid i hebryngwr aros gyda’r plentyn a’u cadw mewn golwg tra’u bod yn perfformio.
Prif ddyletswyddau’r hebryngwr yw sicrhau fod y plentyn wedi ei oruchwylio’n gywir ac yn cael prydau, gorffwys a hamdden digonol.
Rhaid i hebryngwyr sicrhau fod cyfleusterau newid addas wedi eu darparu, gydag ystafelloedd ar wahan i fechgyn a merched dros 5 oed.
Gall hebryngwr oruchwylio hyd at 12 o blant ond gellir cytuno ar nifer llai oherwydd gofynion y perfformiad, neu oedran, rhyw neu anghenion arbennig y plant.
Hyfforddiant
Mae rhaid i unrhyw un sydd angen trwydded hebryngwr gwblhau cwrs hyfforddiant yr NSPCC Amddiffyn Plant mewn Adloniant – hyfforddiant i hebryngwyr (Saesneg). Mae ffi’r cwrs hwn i’w gweld ar wefan yr NSPCC.
Y Broses Ymgeisio
Caiff trwyddedau hebrwng eu rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Yng Nghasnewydd, mae’r broses ymgeisio yn golygu:
- ffurflen gais wedi ei chwblhau
- un ffotograff maint pasbort
- cyfweliad
- Argymhellion boddhaol gan ddau ganolwr
- Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG / SCT) uwch
- mynychu hyfforddiant ar amddiffyn plant
Lawrlwytho furflen gais Cymeradwyo Hebryngwr (pdf)
Llenwch a chwblhewch y ffurflen ynghyd a ffotograff diweddar maint pasbort a dwy ddogfen o blith pob un o’r grwpiau canlynol:
Grwp 1:
Dylai un o’r rhain fod yn prawf adnabod ffotograffig: pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni, datganiad P45 / P60, tystysgrif briodas neu unrhyw dystysgrif cofrestriad proffesiynol.
Os na allwch ddarparu tystiolaeth ar ffurf llun, dewch â thri o'r dogfennau uchod.
Grwp 2:
Bil cyfleustodau diweddar, datganiad banc, datganiad yswiriant, datganiad cerdyn credyd neu ddatganiad morgais o’r 3 mis diwethaf.
Unwaith y caiff y cais ei dderbyn byddwn yn gofyn am Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG i gael ei e-bostio atoch a bydd gofyn i chi gofrestru - gall hyn gymryd hyd at chwe wythnos i’w brosesu. Sylwch y bydd ffi o £6 yn daladwy.
Unwaith i’r gwiriadau GDG a’r geirdaon gael eu cymeradwyo byddwn yn eich ffonio i drefnu dyddiad cyfweld yn y Ganolfan Ddinesig a byddwn yn cadarnhau hyn trwy lythyr.
Byddwch yn derbyn y drwydded fel rheol wedi’r cyfweliad a bydd yn para am flwyddyn.
Bydd modd i chi adnewyddu’r drwydded ddwywaith os byddwch yn cysylltu a ni i wneud hyn cyn iddo ddirwyn i ben, wedi’r ail adnewyddiad bydd gofyn i chi fynd drwy’r broses ymgeisio unwaith yn rhagor.
TRA110933 07/11/2019