Canllaw cyflym i dderbyniadau ar-lein

Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich cais am dderbyniad i'r ysgol, fel y manylir yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni (pdf).

Mae cysylltiadau ar gael drwy gydol y broses i wneud hyn ond cofiwch i ddychwelyd i, a chyflwyno'ch cais yn ogystal â chyflwyno'ch tystiolaeth.

Bob tro y byddwch yn cyflwyno tystiolaeth byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau ond nid yw hyn yn golygu eich bod wedi cwblhau cais derbyniadau i ysgolion

1. Cofrestrwch ar gyfer cyfrif os nad ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth o'r blaen, fel arall mewngofnodwch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair.

2. Gwnewch gais newydd drwy glicio ar y saeth

3. Nodwch a chadarnhewch ddyddiad geni’ch plentyn

4. Dewiswch y grŵp trosglwyddo perthnasol, e.e. derbyniad i'r ysgol uwchradd Medi 2016

5. NAILL AI:

  • Nodwch Rif Cyfeirnod Unigol (RhCU) eich plentyn i barhau, neu os nad oes gennych un,
  • Cliciwch ar 'Dim RhCU' a nodwch fanylion eich plentyn

6. Cadarnhewch:

  • a oes gan eich plentyn ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig
  • a yw eich plentyn, neu a fu erioed, dan ofal awdurdod lleol
  • eich perthynas â'r plentyn
  • bod gennych gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

7. Cadarnhewch:

  • cyfeiriad cartref eich plentyn
  • eich cyfeirnod treth y cyngor lle bo'n berthnasol
  • p'un a ydych yn deulu wasanaeth sy'n dychwelyd neu was y goron

8. Cadarnhewch, chwiliwch am, neu nodwch ysgol bresennol eich plentyn - i weld rhestr o'r holl ysgolion yng Nghasnewydd dilys dewiswch 'Casnewydd' o'r gwymplen a chliciwch 'Chwilio'. 

9. Chwiliwch am a nodwch eich dewisiadau ysgol, gan ateb y cwestiynau perthnasol am bob dewis

10. Sicrhewch eich bod wedi dewis yr holl ddewisiadau perthnasol a'u bod yn cael eu rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.

11. Cymerwch gipolwg dros eich cais cyn parhau.

12. Darllenwch a deallwch y telerau a'r amodau y mae’ch cais yn cael ei wneud oddi tanynt.

13. Cadarnhewch a ydych am dderbyn eich penderfyniad drwy e-bost (dyma beth rydym yn cynghori).  Nodwch y bydd pob ymgeisydd hefyd yn derbyn llythyr penderfyniad.

14. Cadarnhewch eich bod wedi darllen y telerau a'r amodau a bod y wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir.

15. Cyflwynwch eich cais.

16. Nodwch dderbyn eich e-bost cadarnhau cyflwyniad, neu cysylltwch â [email protected] os nad ydych yn ei derbyn gan fod hyn yn dangos nad yw eich cais wedi ei gyflwyno'n llwyddiannus.