Ehangu Maes Ebwy

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgynghori ar y cynnig:

I ehangu safle Ysgol Maes Ebwy a darparu lleoedd ychwanegol i ddisgyblion trwy gynyddu capasiti’r ysgol o 100 i 150 o fis Medi 2018 ymlaen

Lawrlwytho’r Adroddiad i Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfyniad[U1]  gysylltiedig (pdf)

Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Thegwch (pdf)  

Ymgynghoriad      

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 11 Medi a 22 Hydref 2017 ac mae wedi’i gau erbyn hyn.

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i bobl gael gwybodaeth am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau sydd wedi cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori (pdf) a fydd yn cael ei ystyried pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad.

Cynhaliwyd sesiynau galw heibio ar gyfer pobl y byddai’r cynnig yn effeithio arnynt yn fwyaf uniongyrchol, lle’r oedd swyddogion y cyngor ar gael i esbonio’r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau.

Ble?

Pryd?

Ysgol Maes Ebwy                        

20 Medi 2017

Ysgol Maes Ebwy 

26 Medi 2017

 

Lawrlwytho’r llythyr at randdeiliaid (pdf)  

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn[U2]  (pdf)  

Lawrlwytho’r fersiwn gryno o’r ddogfen ymgynghori mewn iaith pob dydd (pdf)

Roedd y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad [U3] (pdf) ar gael yn y sesiynau galw heibio.

Ystyriwyd ymatebion a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad hwn fel sylwadau anffafriol yn hytrach na gwrthwynebiadau i’r cynnig.

Gellir cofrestru gwrthwynebiadau i’r cynnig dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef cam nesaf y cynnig hwn.

Y cynnig

Y cynnig yw ehangu Ysgol Maes Ebwy, sef ysgol arbennig bwrpasol bresennol a gynhelir gan y gymuned.

Mae Ysgol Maes Ebwy yn gwasanaethu’r ddinas gyfan ac yn cefnogi darparu addysg i blant o 3 i 19 oed y mae eu datganiad Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn nodi bod angen darpariaeth arbenigol arnynt.

Mae’r brif ysgol yn rhannu safle ag Ysgol Gynradd Maesglas ac mae digon o le i ddatblygu cyfleusterau ychwanegol heb gael effaith niweidiol ar y ddarpariaeth yn y naill ysgol neu’r llall nac ar unrhyw ysgol arall yn y ddinas. 

Mae Ysgol Maes Ebwy yn cynnig amgylchedd ag adnoddau da, a’i nod yw darparu’r safonau uchaf posibl o addysg a chymorth i bob disgybl, ni waeth beth fo lefel eu hanghenion addysgol.

Mae wedi’i gordanysgrifio ac mae mwy o ddisgyblion ar y gofrestr na’r lle y mesurwyd ei fod ar gael yn yr ysgol.

Er bod hyn wedi cael ei reoli hyd yma, mae digon o le priodol ar gael ar safle’r ysgol i adeiladu saith ystafell ddosbarth ychwanegol a gardd synhwyraidd.

Byddai hyn, ynghyd â’r gwasanaethau ategol cysylltiedig, yn cynyddu capasiti’r ysgol gyfan o 100 i 150.  

Mae’r cynnig hwn yn cefnogi’r galw cynyddol am ddarpariaeth addysg arbenigol ledled dinas Casnewydd.

Mae’r angen hwn wedi cynyddu yn ystod y pump i’r deng mlynedd diwethaf, a bydd y cynnig o fudd i ddisgyblion ledled Casnewydd oherwydd bydd cyfleusterau ychwanegol yn cael eu darparu i gynorthwyo plant sydd ag anghenion arbenigol mewn amgylchedd priodol a diogel.  

Adroddiad ymgynghori

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori, y sylwadau a gafwyd ac ymateb y cyngor. 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Sgiliau yn ystyried y safbwyntiau a fynegwyd ac yn penderfynu p’un a ddylid symud ymlaen â’r cynnig.

Os penderfynir symud ymlaen, bydd hysbysiad statudol yn cael ei gyhoeddi yn yr ysgol.

Bydd cyfnod yr hysbysiad statudol yn para am 28 niwrnod ar ôl y dyddiad cyhoeddi ac mae’n galluogi pobl i fynegi eu safbwyntiau ar ffurf cefnogi neu wrthwynebu’r cynigion.

Os na dderbynnir gwrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad statudol, bydd yr Aelod o’r Cabinet yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â ph’un a ddylid symud ymlaen.  

Any objections to the proposal had to be received by the education service development manager at Newport City Council by Monday 12 February 2018.

Final decision

The full statutory consultation process on the council's proposal to expand Maes Ebbw school has ended.

This process passed through the statutory notice stage without objection and a final decision has been taken by the CM for Education and Skills to implement the proposal with effect from April 2019.

Download the Report to the CM for Education and Skills (pdf)

Download the associated Decision Schedule (pdf)

Download the Fairness and Equality Impact Assessment (pdf)

Download the final decision notification letter (pdf)


 [U1]Dim fersiynau Cymraeg

 [U2]Dim fersiynau Cymraeg

 [U3]Dim fersiwn Gymraeg