Ysgol Gynradd Langstone

Cynnig i gynyddu’r nifer ac ystod oedran disgyblion Ysgol Gynradd Langstone

Mae’r cyngor yn bwriadu cynyddu’r nifer yn ysgol Gynradd Langstone o 315 i 420 llefydd ar gyfer disgyblion.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy symud tair ystafell ddosbarth dros dro sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a’u hailosod gydag estyniad adeilad newydd i’r brif ysgol. 

Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn rhif derbyniad cyhoeddedig yr ysgol o 45 i 60.

Mae hefyd cynnig i sefydlu meithrinfa ar safle ysgol Langstone gan ymestyn yr ystod oedran i 3-11 blwydd oed.

Bydd y feithrinfa yn darparu 24 lle meithrin sy’n cyfateb i lawn amser ar gyfer plant i fynychu sesiynau bore a phrynhawn.

Gall y newidiadau hyn gael eu gweithredu ym mis Medi 2017.

Cyfnod ymgynghoriad ffurfiol

9 Medi 2015 - canol nos  29 Hydref 2015

Am wybodaeth bellach dadlwythwch y pecyn ymgynghoriad  (pdf)

Dadlwythwch yr asesiad effaith tegwch a chydraddoldeb ar gyfer ymgynghoriad ysgol Langstone (pdf)

Cwblhewch yr ymgynghoriad Langstone ar-lein i rannu eich barnau.

Bydd digwyddiadau ymgynghori galw i mewn yn cael eu cynnal yn ysgol Gynradd Langstone ar: 

  • 10 Medi 2015, 3.45pm - 5.45pm
  • 11 Medi 2015, 9am - 11am 

Bydd crynodeb o ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu cyhoeddi a’u cyflwyno i’r aelod cabinet dros addysg cyn i benderfyniad gael ei wneud ar naill ai i gyhoeddi neu beidio cyhoeddi’r cynigion drwy rybudd statudol.