Diweddariad mis Mehefin 2017
Darllenwch ddiweddariad gan y pennaeth (pdf) ynglŷn â threfniadau cytunedig i gefnogi agor Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî ym mis Medi 2017.
Diweddariad mis Mai 2017
Mae’r cynnig hwn wedi cael ei gymeradwyo’n derfynol a bydd yr ysgol yn agor ym mis Medi 2017.
Diweddariad mis Ionawr 2017
Ymgynghorodd Gyngor Dinas Casnewydd ar gynnig:
I sefydlu ysgol gynradd newydd yng Nghasnewydd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed, ar ddatblygiad tai Parc Jiwbilî, o fis Medi 2017 ymlaen.
Lawrlwytho’r Adroddiad i Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfyniad gysylltiedig(pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Thegwch (pdf)
Ymgynghoriad
15 Tachwedd 2016 - 2 Ionawr 2017
Roedd y broses ymgynghori’n gyfle i bobl gael gwybodaeth am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a gyhoeddir yma ac a ystyrir pan fydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad.
Cynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio ar gyfer y rhai hynny y byddai’r cynnig yn effeithio arnynt yn fwyaf uniongyrchol, lle’r oedd swyddogion y cyngor wrth law i esbonio’r cynigion yn fanylach ac ateb unrhyw gwestiynau:
Lleoliad
|
Dyddiad ac amser
|
Canolfan Rivermead, Fuscia Way, Tŷ-du, Casnewydd, NP10 9LD
|
Dydd Iau 24 Tachwedd 2016, 3.30pm – 6pm
|
Ystafell Bwyllgor 7, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR
|
Dydd Gwener 25 Tachwedd 2016, 9am – 11.30am
|
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol (pdf)
Lawrlwytho’r fersiwn gryno o’r ddogfen ymgynghori mewn iaith pob dydd (pdf)
Roedd ffurflen ymgynghori (pdf) ar gael yn y sesiynau galw heibio.
Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu cyfrif fel sylwadau anffafriol yn hytrach na gwrthwynebiadau i’r cynnig.
Gellir cofrestru gwrthwynebiadau i gynnig dim ond ar ôl i hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi, sef ail gam y cynnig.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ganol nos, dydd Llun 2 Ionawr 2017.
Y cynnig
Mae’r cynnig yn ymwneud â sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd a gynhelir gan y gymuned yn natblygiad tai Parc Jiwbilî i ddarparu addysg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed.
Bydd gan yr ysgol newydd nifer derbyn cyhoeddedig o 45 ar gyfer y grwpiau Derbyn i Flwyddyn 6, yn ogystal â dosbarth meithrin â 24 lle a fydd yn darparu ar gyfer uchafswm o 48 o blant yn ystod y sesiwn fore a’r sesiwn brynhawn.
Yn ogystal, bydd gan yr ysgol newydd ddosbarth penodol i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar sail ysgol sy’n tyfu i gefnogi datblygiad Parc Jiwbilî sy’n tyfu.
Adroddiad ymgynghori
Pan ddaeth y cyfnod ymgynghori ffurfiol i ben, paratowyd adroddiad ymgynghori a oedd yn crynhoi’r materion a’r pwyntiau a godwyd ac yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r cynnig.
Lawrlwytho adroddiad ymgynghori Parc Jiwbilî (pdf)
Cam Hysbysiad Statudol
Mae Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc wedi ystyried y safbwyntiau a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol, ac wedi penderfynu symud ymlaen â’r cynnig.
Lawrlwytho’r Adroddiad i Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfyniad gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Thegwch (pdf)
Cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol (pdf) ar 8 Chwefror 2017 am gyfnod o 28 niwrnod yn dilyn y dyddiad cyhoeddi hwn.
Penderfyniad terfynol
Mae’r broses ymgynghori statudol lawn ar gynnig y cyngor i sefydlu ysgol gynradd newydd yn natblygiad Parc Jiwbilî wedi dod i ben.
Mae’r broses hon wedi mynd trwy gam yr hysbysiad statudol heb wrthwynebiad, ac mae Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc wedi gwneud penderfyniad terfynol i weithredu’r cynnig.
Lawrlwytho’r Adroddiad i Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfyniad gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Thegwch (pdf)