Ymgynghoriad ar Sylfaen ASD Ysgol Uwchradd Llanwern FAQs

Beth fydd yn digwydd i'r ddarpariaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (LlIC) bresennol yn Ysgol Uwchradd Llanwern?

Y cynnig yw sefydlu canolfan Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) arbenigol newydd yn ychwanegol at y cyfleuster LlIC sy'n cael ei ddarparu gan yr ysgol ar hyn o bryd. Byddai'r ardal arfaethedig o fewn Ysgol Uwchradd Llanwern ar gyfer y Ganolfan ASA yn golygu ail-leoli’r LlIC i ardal arall o'r ysgol. Mae'r Awdurdod Lleol a'r Ysgol ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer lleoli'r ddarpariaeth hon i sicrhau bod yr ysgol yn gallu parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr. 

Pam canolbwyntio ar ASA ac nid Anghenion Dysgu Ychwanegol eraill (ADY)?

Mae dadansoddiad o ddata Awdurdodau Lleol dros y 5 mlynedd diwethaf wedi dangos poblogaeth ASA gynyddol gymhleth sydd hefyd yn cael ei hadlewyrchu ym mhrofiad swyddogion lleol. O'r herwydd, mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth ASA o fewn y ddinas yn adlewyrchu'r galw cynyddol er mwyn diwallu anghenion y mwyafrif o ddisgyblion o fewn y Ddinas yn briodol, heb y gofyniad am leoliadau Allan o'r Sir. Mae'r Awdurdod Lleol yn adolygu dadansoddiad tueddiadau’r data yn barhaus i lywio penderfyniadau'r dyfodol o ran darpariaeth ADY o fewn Casnewydd.

Pam Ysgol Uwchradd Llan-wern? A pham dim ond 4 lle bob blwyddyn?  

Mae Ysgol Uwchradd Llanwern wedi cael ei chynnig i gynnal y ganolfan ASA gan fod pob ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg arall yng Nghasnewydd yn llawn. Mae capasiti'r ganolfan ASA a gynigir wedi'i gapio ar 20 oherwydd faint o le sydd ar gael yn yr ysgol. Y cynnig yw agor y ganolfan i ddechrau gyda 4 lleoliad blwyddyn 7 a fydd yn cynyddu'n raddol dros gyfnod o 5 mlynedd tan i bob un o'r 20 lleoliad gael eu sefydlu. Bydd hyn yn cynnig sicrwydd pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn Nwyrain y ddinas ar gyfer 4 dysgwr bob blwyddyn. Mae darpariaeth ASA bresennol yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Uwchradd John Frost hefyd yn ddarpariaeth 20 lleoliad (er bod 25 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd). Os gweithredir cynnig yr Awdurdod Lleol, bydd Canolfan ASA 20 lleoliad yn Ysgol Uwchradd John Frost ac Ysgol Uwchradd Llanwern yn y drefn honno. Bydd hyn yn sicrhau bod darpariaeth deg ar ochr Ddwyreiniol a Gorllewin y Ddinas.  Bydd pob lleoliad yn cynnig 4 lleoliad y flwyddyn (8 i gyd ar draws y Ddinas bob blwyddyn).

Pam mae'r Awdurdod Lleol yn targedu dysgwyr ASA gallu isel cymhleth yn hytrach na dysgwyr ASA sy’n gweithredu ar lefel uchel?

Mae'r Awdurdod Lleol yn adolygu ei ddarpariaeth ADY yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod pob anghenion pob dysgwr yn cael ei ddiwallu.  Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod anghysondeb ar hyn o bryd rhwng y ddarpariaeth ADY Cynradd ac Uwchradd ac mae'r Ganolfan ASA arfaethedig yn Ysgol Uwchradd Llanwern yn gydnabyddiaeth o hynny ac yn gam tuag at sicrhau bod darpariaeth uwchradd ehangach ar gael. Mae Ysgolion Arbennig yr Awdurdod Lleol (Maes Ebwy ac Ysgol Bryn Derw) bellach yn darparu ar gyfer mwy o ddisgyblion ag anghenion cymhleth iawn, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu lluosog dwys. O'r herwydd, bydd trothwyon darpariaethau fel Canolfan ASA Ysgol John Frost, Canolfan Datblygiad Dysgu Ysgol (CDD) Sain Silian a chanolfan ASA arfaethedig Ysgol Uwchradd Llanwern yn derbyn disgyblion â phroffil mwy acíwt a chymhleth nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae dadansoddiad tueddiadau data'r Awdurdod Lleol wedi nodi bod bwlch cyfredol yn y ddarpariaeth yng Nghasnewydd ar gyfer dysgwyr ag ASA cymhleth sydd hefyd yn cael anawsterau dysgu. 

Er mwyn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr ASA sy'n gweithredu ar lefel uchel, mae’r Awdurdod Lleol yn buddsoddi mewn hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff ysgolion er mwyn uwchsgilio a sicrhau bod pob lleoliad yn cynnig cefnogaeth briodol i ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gefnogaeth gan y Gwasanaeth Cynghori i ysgolion ar Seicoleg Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer ystod eang o ymyriadau.  Mae hyn yn cynnwys (ond heb ei gyfyngu i) lle mae disgyblion yn profi lefelau uchel o bryder ac Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiynol (EBSA), i sicrhau nad yw disgyblion yn datgysylltu â'u lleoliad ysgol ac yn cael eu gwerthfawrogi o fewn amgylchedd ysgol gynhwysol.