Cerdd Gwent
Caiff Cerdd Gwent ei drefnu gan Gyngor Dinas Casnewydd ar y cyd ag awdurdodau addysg lleol Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen.
Mae'n cynnig gwersi offerynnau cerdd i 14,000 a mwy o fyfyrwyr ar draws 200 o ysgolion yn ne-ddwyrain Cymru ac mae'n trefnu gweithgareddau cerdd i blant a phobl ifanc.
Mae gan gerddorfeydd, bandiau, corau a grwpiau cerdd eraill y gwasanaeth enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth.