Dysgu yn y Gymuned

Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Casnewydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddiwallu anghenion llawer o bobl - boed ar gyfer cymwysterau, cyfleoedd cyflogaeth neu i gyrraedd nodau personol.

Mae'r tudalennau isod yn rhoi manylion y cyrsiau a gynigir, ynghyd â dyddiadau, amseroedd a lleoliadau pob cwrs.

I holi am gwrs neu i gofrestru ar gwrs e-bostiwch: [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

Sgiliau hanfodol a TGAU

Ieithoedd 

Sgiliau Digidol

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Cyrsiau Eraill

Consesiynau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar brisiau cyrsiau.

Sylwch fod amodau’n berthnasol a bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau y mae’n rhaid iddi fod yn ddilys ar y diwrnod y byddwch yn cofrestru ar y cwrs.

Siaradwch ag aelod o staff neu anfonwch e-bost i [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Polisi Ad-dalu

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd yr hawl i ganslo neu gyfuno cyrsiau. Os yw hyn yn angenrheidiol, mae’n bosib y gellir cynnig ad-daliad llawn neu rannol.

Ni roddir ad-daliadau am unrhyw reswm arall.