Bwlio

Bullying bilingual

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i bob ysgol weithredu polisi gwrth-fwlio i leihau ac atal bwlio.

Gall sefydliadau eraill gynnig gwybodaeth a chyngor pellach os oes angen.

Mae bwlio yn annerbyniol  

Gellir diffinio bwlio fel unrhyw ymddygiad unigolyn neu grŵp, a ailadroddir dros amser, sy’n brifo unigolyn neu grŵp arall yn fwriadol, naill ai yn gorfforol neu’n emosiynol.

Gall bwlio gynnwys:

  • pryfocio, sylwadau difrïol a galw enwau
  • bygythiadau a thrais corfforol
  • difrod i eiddo
  • peidio â chynnwys disgyblion mewn gweithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
  • lledaenu sïon
  • negeseuon ffôn symudol neu e-byst sy’n cynhyrfu

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio

Efallai na fydd eich plentyn yn dweud yn uniongyrchol wrthych ei fod yn cael ei fwlio ond gall arddangos symptomau eraill megis cur pen, anniddigrwydd a gorbryder ac efallai na fydd am fynd i'r ysgol.

Os yw eich plentyn yn ymddwyn fel hyn neu os yw’n ymddwyn yn anghydnaws â’i hun a'ch bod yn amau ei fod yn cael ei fwlio, ceisiwch siarad ag ef am ei gynnydd gyda gwaith ysgol, ffrindiau yn yr ysgol, yr hyn mae’n ei wneud yn ystod amser cinio ac egwyliau, unrhyw broblemau neu anawsterau mae’n eu hwynebu.  

Mae dysgu bod eich plentyn yn cael ei fwlio yn gallu peri gofid mawr ond ceisiwch siarad yn bwyllog â'ch plentyn am yr hyn sy'n digwydd.  

Gwnewch nodyn o'r hyn mae’n ei ddweud - pwy oedd yn gysylltiedig, ble, pryd a pha mor aml?   

Tawelwch meddwl eich plentyn gan ddweud ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych.

Dywedwch wrth eich plentyn i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau pellach i athro ar unwaith a siaradwch ag athro eich plentyn am y bwlio.

Taflenni Gwybodaeth Llywodraeth Cymru

Lawrlwytho A yw eich plentyn yn cael ei fwlio? (pdf)

Lawrlwytho A ydych chi'n cael eich bwlio? (pdf)

Lawrlwytho Bwlio Heriol: Canllaw i Blant (pdf)

Lawrlwytho Bwlio Heriol: Canllaw i Bobl Ifanc (pdf)

Siarad ag athrawon

Efallai na fydd gan athro eich plentyn unrhyw syniad bod eich plentyn yn cael ei fwlio.

Peidiwch â chynhyrfu a rhowch fanylion penodol am yr hyn mae eich plentyn yn ei ddweud am yr hyn sydd wedi digwydd – rhowch enwau, dyddiadau a lleoedd.

Gwnewch nodyn o'r camau y bydd yr ysgol yn eu cymryd.

Gofynnwch a allwch chi wneud unrhyw beth i helpu.

Cadwch mewn cysylltiad â'r ysgol a rhowch wybod iddi os yw'r broblem yn parhau neu os yw'r sefyllfa'n gwella.

Cewch wybod beth yw polisi gwrth-fwlio'r ysgol er mwyn i chi wybod beth i'w ddisgwyl.

Darllenwch ganllaw Llywodraeth Cymru ar fwlio mewn ysgolion, sydd ar gael mewn ystod o ieithoedd cymunedol. 

Os ydych wedi siarad ag athrawon ac ysgol eich plentyn ac nad yw'r bwlio yn dod i ben, neu os nad ydych yn hapus o hyd gyda'r ffordd y mae'r ysgol yn delio â’r bwlio, mae'r sefydliadau canlynol yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth:

TRA123216 04/08/2020