Ceiswyr lloches ac addysg

Prif amcan GEMS (Gwasanaeth Addysg Aml-Ethnig Gwent) yw gwella cyflawniad a chyrhaeddiad dysgwyr du ac ethnig lleiafrifol 4-19 oed ar draws Casnewydd. 

Ffôn: (01633) 851502

Plant a'r ysgol

Rhaid i rieni pob plentyn sy'n byw yn y Deyrnas Unedig wneud yn siwr bod eu plant yn mynd i'r ysgol pan fyddant rhwng 5 ac 16 oed.

Yng Nghymru, bydd plant fel arfer yn gallu mynd i'r ysgol o ddechrau'r mis Medi sy'n dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Cysylltwch â GEMS gan ddefnyddio'r manylion uchod i gael help i ddod o hyd i ysgol addas i'ch plentyn.

Mae pob ysgol yng Nghasnewydd yn ysgolion i fechgyn a merched. 

Cewch lythyr yn rhoi gwybod i chi p'un a oes lle ar gael mewn ysgol, yna mae'n rhaid i chi gysylltu â'r ysgol i drefnu apwyntiad i ymweld â'r ysgol. 

Os byddwch yn cyrraedd Casnewydd ac wedi gwneud cais am loches, byddwch yn cyfarfod â'r cydlynydd ceiswyr lloches os oes gennych blant oedran ysgol.

Yn y cyfarfod hwn, gwneir nodyn o addysg flaenorol, unrhyw anghenion arbennig a manylion meddygol.

Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle i deuluoedd ddysgu am y system addysg a beth gall ysgolion ei gynnig.  

Bydd GEMS yn gwneud ei orau i sicrhau bod eich plentyn yn cael cymorth gan athro iaith arbenigol, a all helpu hefyd os bydd unrhyw anawsterau cyffredinol.

Plant 4 oed ac iau 

Caiff plant o dan 4 oed fynd i ysgolion meithrin neu ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd. Dyma'r dewisiadau:

  • Ysgolion meithrin neu ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion a gynhelir gan Gyngor Dinas Casnewydd
  • Meithrinfeydd gwasanaethau cymdeithasol y cyngor - gallai gweithiwr cymdeithasol argymell y rhain os bydd problemau penodol
  • Meithrinfeydd preifat nad ydynt yn cael eu cynnal gan y cyngor - mae rhieni'r plant sy'n mynd i'r rhain yn talu'r perchennog
  • Meithrinfeydd a gynhelir gan golegau - mae myfyrwyr coleg yn talu i'w plant dderbyn gofal tra byddant yn astudio
  • Cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a babanod – cynhelir y rhain yn y gymuned leol, gan rieni yn aml, a chodir tâl fel arfer

Darllenwch ragor am ddarpariaeth feithrin yng Nghasnewydd

Plant 11 oed ac iau

Mae gwahanol fathau o ysgolion cynradd ar gyfer plant 4 i 11 oed:

  • Ysgolion babanod i blant rhwng 4 a 7 oed, sef Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, a elwir hefyd yn Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar
  • Ysgolion cynradd i bob plentyn rhwng 4 ac 11 oed, sy'n cynnwys Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 – y Cyfnod Sylfaen – a Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 – Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion iau i blant 7 i 11 oed, sy'n cynnwys Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 – Cyfnod Allweddol 2

Darllenwch ragor am addysg ysgol gynradd yng Nghasnewydd

Mae'r flwyddyn ysgol yn dechrau ym mis Medi. Os yw eich plentyn eisoes yn mynd i'r ysgol, bydd lle yn cael ei gadw'n awtomatig gan yr ysgol gynradd bresennol.

Os ydych chi newydd gyrraedd Casnewydd ac wedi hawlio lloches, bydd y cydlynydd ceiswyr lloches yn GEMS yn cysylltu â chi a bydd yn trefnu lleoliad mewn ysgol. 

Os na chlywch gan y cydlynydd o fewn pythefnos, cysylltwch â GEMS.

Plant 11 i 16 oed

Mae plant yn mynd i'r ysgol uwchradd neu'r ysgol gyfun ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed a dyma'r cyfnodau addysg:

  • Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9 – sef Cyfnod Allweddol 3
  • Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 – sef Cyfnod Allweddol 4
  • Blwyddyn 12 a Blwyddyn13 – sef Cyfnod Allweddol 5 a'r chweched dosbarth

Mae plant yn gadael yr ysgol ar ôl cyrraedd 16 oed, ym mis Mehefin blwyddyn 11, ac yna gallant ddewis aros yn yr ysgol neu fynd i goleg hyd nes byddant yn 18 oed.

Enw coleg lleol Casnewydd yw Coleg Gwent ac mae'n goleg i fyfyrwyr 16 oed a hŷn.

Os ydych newydd gyrraedd Casnewydd ac wedi hawlio lloches, bydd y cydlynydd ceiswyr lloches yn GEMS yn cysylltu â chi a bydd yn trefnu lleoliad mewn ysgol. 

Os na chlywch gan y cydlynydd o fewn pythefnos, cysylltwch â GEMS.

Prydau ysgol a gwisg ysgol

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael prydau ysgol am ddim os bydd eu rhieni neu eu gofalwyr yn derbyn budd-daliadau penodol.

Er bod rhaid i rieni dalu am brydau ysgol fel arfer, os byddwch yn ceisio lloches, bydd gan eich plant yr hawl i bryd ysgol am ddim ganol y dydd. 

Gwisg ysgol

Mae'n bosibl y bydd gan ddisgyblion Blwyddyn 7 sy'n dechrau'r ysgol uwchradd ac sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, yr hawl i gael grant am wisg ysgol hefyd.

Ysgolion sy'n penderfynu p'un a oes angen i blant wisgo gwisg ysgol ai peidio. Os byddwch chi'n hawlio lloches, bydd y cydlynydd ceiswyr lloches yn GEMS yn eich helpu i brynu gwisg ysgol i'ch plant.

Darllenwch ragor am brydau ysgol am ddim a'r grant gwisg ysgol

Darllenwch am deithio i'r ysgol - cludiant o'r cartref i'r ysgol

Problemau yn yr ysgol

Os yw'ch plentyn yn anhapus yn yr ysgol neu'n cael problemau eraill, mae'n bwysig trafod hyn gydag athrawon eich plentyn mewn noson rieni, neu gallwch gysylltu â'r ysgol i drefnu apwyntiad. 

Cysylltu 

Mae staff GEMS ar gael mewn rhai ysgolion i'ch helpu chi. Cysylltwch â GEMS os oes gennych unrhyw broblemau neu os oes arnoch angen cyngor ynglŷn ag addysg eich plentyn.