Polisi Ymgynghori

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut yr ymgynghorir ag aelodau’r cyhoedd pan gaiff cais cynllunio ei gyflwyno.

Caiff Cynghorau Cymuned eu hysbysu am bob cais am ganiatâd cynllunio o fewn eu hardaloedd yn ogystal â rhai mathau eraill o geisiadau (gweler nodyn 2).

Gallwch weld pob cais cynllunio a dderbyniwyd a gwneud sylw ar y ceisiadau a dderbyniwyd

Datblygiadau Mawr

Diffinnir datblygiadau mawr yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefnau Rheoli Datblygiadau) (Cymru) 2012 (DMPWO) fel: 

  • cynnig codi 10 neu fwy o anheddau (gan gynnwys fflatiau)
  • lle nad yw nifer yr anheddau yn hysbys (ceisiadau amlinellol) mae safle’r cais yn fwy na 0.5 hectar
  • pan fo safle’r cais yn fwy nag 1 hectar
  • pan fo adeiladau/estyniadau arfaethedig yn creu ardal llawr sy’n fwy na 1000 o fetrau sgwâr
  • ennill a gweithio mwynau
  • datblygu gwastraff

Mae ymgynghori ar ddatblygiadau mawr yn cynnwys:

  • hysbyseb yn y South Wales Argus i roi gwybod am y datblygiad (Erthygl 12 DMPW)
  • hysbysiad safle wedi’i arddangos ar neu’n agos at safle’r cais ac yn weladwy o’r briffordd gyhoeddus
  • Bydd pob eiddo o fewn 50 metr o safle’r cais yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r datblygiad 
  • Rhoddir gwybod i gynghorwyr wardiau
  • caiff cynlluniau ailddatblygu mawr eu hysbysebu ym mhapur newyddion y cyngor, Newport Matters, yn dibynnu ar amserlenni cyhoeddi.

Datblygiadau bach a rhai deiliaid tŷ 

Mae datblygiad bach yn cynnwys pob math arall ar gais cynllunio ac eithrio lle y’i diffinnir fel cais ‘mawr’.

Mae datblygiad deiliad tŷ yn cynnwys ceisiadau megis estyniadau, ffenestri cromen, trawsnewidiadau garej, waliau gerddi, adeiladau allan ayyb., ar gyfer annedd breifat.

Mae ymgynghori ar ddatblygiadau bach a rhai deiliaid tŷ yn cynnwys:

  • Cymdogion sydd â ffin gyffredin â safle’r cais yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r datblygiad; Ar achlysuron prin, mewn perthynas ag estyniadau ar y blaen neu ar yr ochr, neu ddatblygiadau mewnlenwi, mae’n bosibl yr ymgynghorir â’r eiddo gyferbyn â’r datblygiad arfaethedig os yw swyddog cais yn credu bod hynny’n briodol.
  • Os nad oes unrhyw gymdogion cyfagos neu os yw’r safle ger tir/eiddo lle na ellir adnabod y cyfeiriad/perchennog yn rhwydd, caiff hysbysiad safle ei arddangos yn agos at y safle ac yn weladwy o’r briffordd gyhoeddus

Datblygiadau bychain ond dadleuol

Er enghraifft datblygiadau sy’n denu torfeydd neu sŵn neu draffig i ardal gymharol dawel, codi adeiladau mwy na 15 metr o uchder a cheisiadau ar gyfer cymeradwyo mastiau telathrebu newydd o flaen llaw.

Bydd ymgynghori yn cynnwys:

  • Bydd pob eiddo o fewn 50 metr o safle’r cais yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r datblygiad 
  • Caiff cynghorwyr wardiau wybod am y datblygiad
  • caiff hysbysiad safle ei arddangos ar neu’n agos at safle’r cais ac yn weladwy o’r briffordd gyhoeddus

Caiff hysbysiad safle a hysbysiad yn y South Wales Argus ei ddefnyddio i hysbysebu unrhyw gais sy’n

  • effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus 
  • gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu
  • effeithio ar leoliad adeilad rhestredig 
  • effeithio ar gymeriad a golwg ardal gadwraeth
  • dod ynghyd ag asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd

Ceisiadau eraill

Caniatâd Hysbysebu

Dim ymgynghori oherwydd na cheir gwrthod hysbysebion ond ar sail amwynder gweledol a diogelwch ar y briffordd felly ni fydd y cyngor ond yn ymgynghori â’r awdurdod priffyrdd perthnasol.

Caniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig a chaniatâd ar gyfer ardaloedd cadwraeth

  • rhoddir hysbyseb yn y South Wales Argus i roi gwybod am y datblygiad  
  • rhoddir hysbysiad safle ar neu ger safle’r cais i roi gwybod am y datblygiad

Coed

Gwaith ar goed a amddiffynnir (Gorchymyn Diogelu Coed neu o fewn ardaloedd cadwraeth)

  • Bydd cymdogion sydd â ffin gyffredin â safle’r cais yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r cynigion
  • caiff hysbysiad safle ei arddangos ar neu’n agos at safle’r cais ac yn weladwy o’r briffordd gyhoeddus
  • Os yw’n Orchymyn Diogelu Coed, rhoddir gwybod i gynghorwyr wardiau

Mae’r rhain yn cynnwys hysbysiadau i waith ar gyfer coed sydd y tu fewn i ardaloedd cadwraeth neu wedi’u hamddiffyn gan Orchymyn Diogelu Coed (TC neu TP), cyflwyniadau cymeradwyo o flaen llaw 56 diwrnod ar gyfer telathrebu, hysbysiad o waith i wrychoedd (H), cais a wnaed i Lywodraeth Cymru ar gyfer Projectau Seilwaith o Arwyddocâd (NSIP), caniatâd ar gyfer ardaloedd cadwraeth (CA), Caniatâd ar gyfer Adeiladau Rhestredig (LBC) a cheisiadau Materion a Gadwyd (RM).  Ni ymgynghorir â Chynghorau Cymunedol ar gyfer ceisiadau a wneir o dan y rheoliadau hysbysebu (AC), hysbysiadau (DEM/AD/PLE) cyflawni amodau (CD), Tystysgrifau Cyfreithlondeb (LDCE/LDCP), Sylweddau Peryglus (HDC/HSC). 

Dileu gwrychoedd

  • Caiff cynghorwyr wardiau wybod am y cynigion
  • caiff hysbysiad safle ei arddangos ar neu’n agos at safle’r cais ac yn weladwy o’r briffordd gyhoeddus

Nid yw’r polisi a amlinellir yn gynhwysfawr ac nid yw’n perthyn i hysbysiadau, neu geisiadau am Dystysgrifau Cyfreithlondeb, cymeradwyaeth ymlaen llaw neu hysbysiadau eraill a roddir ar y gofrestr cynllunio.

Ar wahân i ymgynghori ag ymgyngoreion statudol, heblaw am o dan amgylchiadau eithriadol, ni fydd y cyngor yn ymgynghori ar geisiadau o’r fath.

Ail-ymgynghori

Os cyflwynir cynlluniau diwygiedig yn ystod cyfnod pennu cais ac ystyria Pennaeth Gwasanaethau’r cyngor eu bod dwyn effaith ychwanegol bosibl (e.e. cynyddu maint yr estyniad), rhoddir gwybod i breswylwyr cyfagos am y cynlluniau diwygiedig a rhoddir cyfnod o 14 diwrnod er mwyn rhoi rhagor o sylwadau ysgrifenedig.

Os ystyrir bod i’r diwygiadau ddiddordeb cyhoeddus ehangach, mae’n bosibl y caiff hysbysiad safle arall ei arddangos.

Nodiadau

1. Mae Polisi Ymgynghori mabwysiedig y cyngor yn bodloni’r gofynion lleiaf o ran cyhoeddusrwydd a restrir yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiadau (Cymru) 2012, Adrannau 67 a 73 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Bydd gan aelodau’r cyhoedd o leiaf 21 diwrnod o ddyddiad hysbysiad safle, hysbysiad y wasg neu lythyr gan gymydog i ymateb. Mae’n rhaid gwneud sylwadau yn ysgrifenedig (mae e-bost yn dderbyniol) er mwyn cael eu hystyried yn ffurfiol.

2. Mae’r rhain yn cynnwys hysbysiadau gwaith ar goed sydd mewn ardaloedd cadwraeth neu wedi’u hamddiffyn gan Orchymyn Diogelu Coed (TC neu TP), cyflwyniadau cymeradwyo o flaen llaw 56 diwrnod ar gyfer telathrebu, hysbysiad o waith i wrychoedd (H), cais a wnaed i Lywodraeth Cymru ar gyfer Projectau Seilwaith o Arwyddocâd (NSIP), caniatâd ar gyfer ardaloedd cadwraeth (CA), Caniatâd ar gyfer Adeiladau Rhestredig (LBC) a cheisiadau Materion a Gadwyd (RM).  Ni ymgynghorir â Chynghorau Cymunedol ar gyfer ceisiadau a wneir o dan y rheoliadau hysbysebu (AC), hysbysiadau (DEM/AD/PLE) cyflawni amodau (CD), Tystysgrifau Cyfreithlondeb (LDCE/LDCP), Sylweddau Peryglus (HDC/HSC). 

3. Mae ‘safle cais’ neu ‘safle’ yn cyfeirio at y tir a amlinellir yn goch ar gynllun lleoliad y safle a dyma’r tir y mae’r cais yn cyfeirio ato.

4. Ymgynghorir ar bob eiddo o fewn 100 metr o ddatblygiad ‘mawr’ neu ‘mân ond dadleuol’) ar gyfer safle cais a leolir y tu hwnt i ffiniau’r anheddiad (fel y’i diffinnir yn y Cynllun Datblygu). 

TRA104074 21/6/2019