Rhentu Doeth Cymru

Rent-Smart-Wales-logo

Atgoffir landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yng Nghasnewydd neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith.   

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn helpu i wella safonau yn y sector rhent prefiat ac yn ei gwneud yn orfodol i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a’u heiddo. 

Mae’n rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod ac yn rhentu eiddo gael trwydded yn ogystal.

Ers 23 Tachwedd 2016 gall landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith wynebu cosbau gan gynnwys erlyniad, hysbysiadau cosb benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio â Rhentu Doeth Cymru i nodi’r rheiny nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith ac mae cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd eto i gydymffurfio, peidiwch ag oedi, rhowch y camau cydymffurfio angenrheidiol ar waith er mwyn osgoi cael eich cosbi.

Os ydych yn denant a’ch bod eisiau cadarnhau p’un ai a yw eich landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, chwiliwch drwy gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru.

Os nad yw wedi’i gofrestru, cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344

Bydd angen i chi wneud cais am drwyddedau eiddo unigol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth