Grantiau tai

Er nad yw Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu grantiau adnewyddu neu atgyweirio, byddwn yn cynorthwyo perchenogion cartrefi sy’n gallu ariannu’r gwaith yn annibynnol a gallwn gynnig cyngor, gan gynnwys rhestr o gontractwyr cymeradwy. 

Darllenwch am y cynllun grant diogelwch yn y cartref

Grant cyfleusterau i’r anabl 

Os ydych chi neu rywun sy’n byw yn eich eiddo yn anabl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer grant cyfleusterau i’r anabl i helpu tuag at gost addasu eich cartref fel bod yr unigolyn anabl yn gallu byw’n fwy annibynnol. 

Mae’r grant cyfleusterau i’r anabl gorfodol yn darparu addasiadau hanfodol i roi gwell rhyddid i bobl anabl symud yn y cartref ac o’i gwmpas e.e. lledu drysau, gosod rampiau, gosod lifft grisiau, gwella toiledau, cyfleusterau ymolchi a gwella diogelwch yn y cartref. 

Mae’r grantiau’n seiliedig ar brawf modd ac ar gael i berchen-feddianwyr a thenantiaid preifat.

Darllenwch am y grant cyfleusterau i’r anabl ar safle Llywodraeth Cymru

Cymhwysedd           

Mae grantiau cyfleusterau i’r anabl ar gael i berchen-feddianwyr a thenantiaid rhentu preifat.

Os nad yw’r unigolyn anabl yn berchennog neu’n denant, er enghraifft, os yw’n blentyn neu’n berthynas arall sy’n byw yn yr eiddo fel ei brif breswylfan, gall deiliad y tŷ wneud cais.

Mae’n rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd fod yn fodlon bod y gwaith arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol i fodloni anghenion yr unigolyn anabl, a’i fod yn rhesymol ac yn ymarferol o ystyried oedran a chyflwr yr eiddo.

Gallai grant cyfleusterau i’r anabl gael ei wrthod os nad yw’r cyngor yn credu bod y cynllun yn rhesymol ac yn ymarferol.

Lawrlwytho’r nodiadau canllaw ar gyfer y grant cyfleusterau i’r anabl (pdf) 

Mae ceisiadau grant ar gyfer oedolion yn seiliedig ar brawf modd er mwyn cael gwybod faint y bydd rhaid i’r ymgeisydd ei gyfrannu tuag at gost y gwaith.

Nid oes prawf modd os yw’r cais ar gyfer plentyn anabl iau nag 16 oed neu berson ifanc dibynnol iau nag 20 oed sy’n gymwys ar gyfer budd-dal plant.  

Mae’r prawf modd yn cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog, gan ystyried unrhyw gynilion sy’n uwch na therfyn penodol, ac mae’n anwybyddu rhai budd-daliadau. 

Gosodir hyn yn erbyn asesiad o anghenion sylfaenol i adlewyrchu treuliau.

Swm y grant a ddyfernir yw’r gwahaniaeth rhwng cost y gwaith a chyfraniad yr ymgeisydd a bennwyd yn ôl y prawf modd.

Y grant mwyaf y gellir ei dalu yw £36,000 ac mae’n ddarostyngedig i amodau grant penodol.

Ymgeisio

Bydd y cyngor yn asesu p’un a ydych chi’n gymwys i wneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl gan ystyried eich amgylchiadau ariannol a’ch angen am addasiadau.

Bydd prawf modd rhagarweiniol yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn eich ffurflen holi ynghylch grant yn ein helpu i gael gwybod am unrhyw gyfraniad y bydd rhaid i chi ei wneud, o bosibl. 

Bydd asesiad o anghenion yn cael ei gynnal gan therapydd galwedigaethol a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer unrhyw waith yr ystyrir ei fod yn hanfodol. 

Gwnewch gais ar-lein

E-bost [email protected]

Gofal a Thrwsio Casnewydd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda Gofal a Thrwsio Casnewydd, sef asiantaeth gwella cartrefi sy’n darparu gwasanaeth tasgmon cost isel i bobl dros 65 oed sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, rhaglen addasiadau i bobl sy’n dod allan o’r ysbyty neu sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty, a chyngor a chymorth.

Cysylltu

Anfonwch neges e-bost [email protected] neu

cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm tai sector preifat.