Amodau'r grant cyfleusterau i'r anabl

Mae’r amodau canlynol yn berthnasol i ddarparu cymorth grant ar gyfer grant cyfleusterau i’r anabl.

  • Mae’n rhaid i’r gwaith gael ei wneud gan un o’r contractwyr a roddodd y dyfynbrisiau a nodwyd yn y cais.
  • Mae’n rhaid i ymgeisydd roi gwybod i’r cyngor os bydd angen unrhyw gytundeb i amrywio’r polisi hwn.
  • Bydd unrhyw achos o dorri’r polisi hwn yn arwain at atal taliadau ac, oni bai bod y cyngor yn fodlon ar y seiliau ar gyfer y newid, bydd yn mynnu bod yr holl arian grant a dalwyd eisoes yn cael ei ad-dalu’n llawn.

Un o amodau’r grant yw bod yr holl waith y rhoddwyd y grant ar ei gyfer yn cael ei gwblhau o fewn 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r grant yn ffurfiol.

Mae’r amodau canlynol yn gymwys am gyfnod o 10 mlynedd o ddyddiad y Dystysgrif Gwblhau (y Dyddiad Ardystiedig) a gellir eu cofrestru ar y gofrestr pridiannau tir lleol.

  • Mae’n rhaid i’r eiddo gael ei feddiannu drwy gydol cyfnod amodau’r grant yn unol â’r Dystysgrif Meddiannaeth yn y Dyfodol sy’n berthnasol i’r grant hwn.
  • Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddweud wrth y cyngor sut mae’r amod hwn yn cael ei fodloni gan ddechrau o’r Dyddiad Ardystiedig.

Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r cyngor am unrhyw fwriad i gael gwared â’r eiddo a fu’n destun cymorth grant ac sydd o fewn cyfnod amodau’r grant.

Yr amodau pan fydd angen ad-dalu’r grant

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn mynnu bod grant cyfleusterau i’r anabl yn cael ei ad-dalu gan rywun sydd wedi derbyn rhan o’r grant sy’n fwy na £5,000, ond ni fydd yn mynnu mwy na £10,000.

Mae’r amod ad-dalu wedi’i osod ar 10 mlynedd o ddyddiad y Dystysgrif Gwblhau (y dyddiad Ardystiedig).

Bydd yr amod hwn yn berthnasol:

  • pan fydd yr eiddo’n cael ei waredu, neu
  • pan fydd amodau’r grant yn cael eu torri o ran darparu cymorth grant, neu
  • pan fydd achos o dorri amodau’r grant sy’n berthnasol drwy gydol y cyfnod 10 mlynedd o ddyddiad y Dystysgrif Gwblhau (y dyddiad Ardystiedig).

Yr amodau pryd y gallai Cyngor Dinas Casnewydd ddymuno ystyried peidio â gofyn am ad-daliad

  • Y graddau y byddai derbynnydd y grant yn dioddef caledi ariannol pe byddai’n rhaid iddo ad-dalu’r grant cyfan neu unrhyw ran ohono
  • P’un a yw’r eiddo’n cael ei waredu er mwyn i dderbynnydd y grant allu ymgymryd â chyflogaeth, neu newid lleoliad ei gyflogaeth
  • P’un a yw’r eiddo’n cael ei waredu am resymau yn ymwneud ag iechyd neu les corfforol neu feddyliol derbynnydd y grant neu feddiannwr anabl yr eiddo, a
  • Ph’un a yw’r eiddo’n cael ei waredu i alluogi derbynnydd y grant i fyw gyda, neu gerllaw, unrhyw unigolyn sy’n anabl neu’n eiddil ac y mae arno angen gofal, y mae derbynnydd y grant yn bwriadu ei ddarparu, neu y mae’n bwriadu darparu gofal y mae ei angen ar dderbynnydd y grant o ganlyniad i anabledd neu eiddilwch.

Bydd achosion pryd y gallai’r cyngor ystyried peidio â gofyn am ad-dalu’r grant yn cael eu pwyso a’u mesur gan y rheolwr adfywio, buddsoddi a thai ac aelod y cabinet ar gyfer gofal cymdeithasol a llesiant. 

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau’n ysgrifenedig i reolwr adfywio, buddsoddi a thai Cyngor Dinas Casnewydd gan roi manylion llawn i gefnogi’r cais am beidio â mynnu bod y grant yn cael ei ad-dalu.