Sut rydyn ni’n ymdrin â cheisiadau am wasanaeth Niwsans Tai Iechyd yr Amgylchedd
Os ydych chi’n credu bod gennych gŵyn ddifrifol neu bryder ynghylch cyflwr eich cartref neu eiddo cyfagos, cysylltwch â ni. Bydd eich achos yn cael ei drafod a gellir ei gyfeirio i Dîm Tai Iechyd yr Amgylchedd.
Bydd swyddogion yn cysylltu â chi ac yn trafod cais y gwasanaeth ac mae'n debyg y byddan nhw’n trefnu arolygiad.
Rôl tîm tai iechyd yr amgylchedd yw asesu a ellir ystyried y sefyllfa yn niwsans statudol.
Diffinnir niwsans statudol yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel un sy'n niweidiol i iechyd neu’n niwsans, e.e. cadw colomennod, ystyrir iechyd pob parti ar sail person cyffredin yn hytrach nag iechyd unigol.
Niwsans yw rhywbeth sy'n effeithio'n sylweddol ar gysur eich bywyd neu'n cael effaith sylweddol ar ansawdd eich bywyd. Dylech chi hefyd gofio bod yn rhaid i chi fod â disgwyliadau rhesymol, mae gan bobl wahanol ffyrdd o fyw, dim ond pan ddaw’n ymyrraeth afresymol y mae’n niwsans. Efallai y bydd rhai sefyllfaoedd yn digio rhai pobl, ond efallai na fyddant yn niwsans statudol.
Mae'n ddyletswydd ar y cyngor i ymdrin â niwsans statudol a bydd swyddog yn gwneud asesiad yn seiliedig ar:
- pryd mae’r sefyllfa'n codi
- pa mor aml mae'n digwydd
- pa mor hir mae'n para
- maint neu ddifrifoldeb y broblem
- lleoliad a nodweddion yr ardal.
Os credwn fod niwsans statudol yn bodoli, byddwn yn cyflwyno hysbysiad atal a allai, os caiff ei dorri, arwain at achos llys. Mae gweithdrefnau gorfodi ar gael pan fo camau anffurfiol yn aflwyddiannus neu'n amhriodol.
Lawrlwythwch y Polisi gorfodi diogelu'r cyhoedd (pdf)
Tystiolaeth
Mae’n bosibl y gofynnir i chi gasglu tystiolaeth a darparu datganiadau tystion i helpu Swyddogion. Mae angen i dystiolaeth fod yn wir, hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred.
Gallwch chi fod yn agored i erlyniad os byddwch chi’n nodi unrhyw beth yn eich tystiolaeth sy'n ffug yn fwriadol.
Niwsans Preifat / Sifil
Mae gan unrhyw berson sy'n cael ei effeithio gan unrhyw fath o niwsans yr hawl i gwyno'n uniongyrchol i'r Llys Ynadon o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 82. Bydd angen i'r Ynad fod wedi’i argyhoeddi bod y broblem yn gyfystyr â niwsans statudol