Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol

Er 1 Ebrill 2020, yn unol â Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) (2015), mae wedi bod yn anghyfreithlon rhentu eiddo domestig gyda sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) F neu G (oni bai bod eithriad dilys wedi'i gofrestru ar Gofrestr Eithriadau'r sector rhent preifat (SRhP)).

Mae'r rheoliadau'n berthnasol i’r holl eiddo perthnasol yn y SRhP, hyd yn oed os na newidiwyd tenantiaeth.  Mae dyletswydd gan Gyngor Dinas Casnewydd i orfodi'r rheoliadau hyn.

Lawrlwythwch y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol - Canllaw I Landlordiaid Ac Asiantau Gosod (pdf)

Beth yw TPY?

Mae TPY yn rhoi sgôr effeithlonrwydd ynni i'r eiddo. Mae hefyd yn rhoi argymhellion ynghylch sut y gellid lleihau'r defnydd o ynni, gan leihau costau rhedeg:

Eiddo sy’n cael sgôr A yw'r rhai mwyaf effeithlon o ran ynni ac eiddo sy’n cael sgôr G yw'r lleiaf effeithlon.  Nid yw eiddo sy’n cael sgôr F neu G yn cydymffurfio.

Rhaid i landlordiaid:

  • Beidio â marchnata na gosod yr eiddo hyd nes y ceir sgôr TPY E neu uwch. Rhaid rhoi copi o’r TPY i’r tenantiaid hefyd.
  • Sicrhau bod gan eiddo rhent TPY dilys gyda sgôr 'E' o leiaf.
  • Cofrestru eithriad SRhP dilys ar Gofrestr Eithriadau’r SRhP.

Bydd methu â gwneud y rhain yn golygu eu bod yn torri’r rheoliadau.

Mae TPYau yn ddilys am 10 mlynedd (oni bai bod tystysgrif ddilys newydd yn cael ei chomisiynu o fewn y cyfnod hwn).  Rhaid iddi gael ei chyflwyno gan berchennog yr eiddo pan gaiff yr eiddo ei rentu neu ei werthu. 

Eithriadau

Mae'r Rheoliadau yn atal landlordiaid rhag gosod eiddo sydd â sgôr TPY sy’n llai nag E. 

Mae rhai eithriadau a rhaid i landlordiaid wneud cais am eithriad a gofnodir ar Gofrestr Eithriadau'r SRhP.

I eithrio eiddo, dylai landlordiaid wneud cais i gofrestru hyn cyn gynted â phosibl er mwyn parhau i gydymffurfio.

Mwy o wybodaeth am eithriadau 

Gwybodaeth ddefnyddiol