Gwybodaeth i berchnogion

Am drafodaeth anffurfiol ar eich eiddo gwag, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 a gofynnwch am y Tîm Strategaeth a Chyflawni Tai.

Benthyciadau perchen-feddianwyr

Ariennir y cynllun benthyciadau Diogel a Chynnes gan Lywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau di-log i berchen-feddianwyr neu landlordiaid y mae angen iddynt wneud gwaith atgyweirio neu foderneiddio i'w heiddo. Gall y gwaith gynnwys unrhyw beth i wella effeithlonrwydd ynni neu ddiogelwch y cartref.  

Dysgwch fwy am fenthyciadau perchen-feddianwyr.

Gostyngiadau neu eithriadau'r dreth gyngor

Ym mis Ebrill 2019, unwaith y bydd unrhyw eithriad yn dod i ben, mae tâl llawn y Dreth Gyngor yn daladwy ar bob eiddo gwag.

Os ydych yn berchen ar eiddo sydd heb ei ddodrefnu’n sylweddol na'i feddiannu, sy'n cael ei atgyweirio'n sylweddol neu addasiadau adeileddol, efallai y gallwch wneud cais am eithriad o’r Dreth Gyngor am gyfnod o hyd at 12 mis.

Dysgwch fwy am eithriadau'r dreth gyngor.

Gosod

Gall rhentu eich eiddo gwag fod yn ffordd o gynhyrchu incwm ychwanegol.

Cynllun Prydlesu'r Sector Preifat

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn prydlesu rhai eiddo preifat yn uniongyrchol oddi wrth berchnogion, fel arfer ar brydles pum mlynedd, ar gyfer llety dros dro pan fo angen. Dysgwch fwy am Gynllun Prydlesu'r Sector Preifat.

Cynllun Adleoli Pobl sy’n Agored i Niwed

Mae'r Cynllun yn dîm o fewn y cyngor sy'n cefnogi ailsefydlu ffoaduriaid agored i niwed sy'n dianc rhag rhyfeloedd. Mae'r tîm yn derbyn cyllid gan y Swyddfa Gartref i gyflawni eu gwaith, gan gynnwys dod o hyd i lety teuluol priodol. Mae angen eiddo ar y tîm i gefnogi'r gwaith hanfodol hwn.

Bydd y tîm yn sicrhau nad oes unrhyw gyfnodau gwag a bod rhent yn cael ei dalu'n rheolaidd.  Mae tenantiaethau fel arfer rhwng 1 a 2 flynedd.  Fel arfer, bydd y tîm yn mynd i'r afael ag unrhyw waith cynnal a chadw nad yw'n adeileddol (os, neu bryd, y cytunir ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol (LTLl) gan landlordiaid). Os hoffech i rywun gysylltu â chi am y prosiect hwn, anfonwch e-bost i [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y Tîm Strategaeth a Chyflawni Tai.

Rhentu Doeth Cymru

O 23 Tachwedd 2015 mae'n ofyniad cyfreithiol bod pob rhent eiddo preifat yng Nghymru wedi'i gofrestru o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru. Os ydych yn rheoli'r eiddo, bydd angen i chi hefyd gael eich trwyddedu o dan y cynllun neu gyflogi asiant trwyddedig i reoli eich eiddo. 

Fforwm Landlordiaid

Mae gan Gasnewydd Fforwm Landlordiaid , a gefnogir gan y cyngor, i helpu landlordiaid trwy gyfnewid newyddion a gwybodaeth.

Gwerthu

Os ydych am werthu eich eiddo, gallech ddefnyddio asiant tai ar gyfer gwerthiant preifat, neu roi cynnig ar werthu drwy arwerthiant. Bydd y rhan fwyaf o arwerthwyr yn esbonio’r broses i chi, yn trafod amcanbris ac, os dymunwch, yn eich helpu i benderfynu ar bris cadw, heb rwymedigaeth. Mae nifer o wasanaethau arwerthu ar gyfer ardal Casnewydd.

Nid oes gan Gyngor Dinas Casnewydd ei stoc tai ei hun mwyach ac nid yw'n gallu prynu eiddo gan berchnogion.   

Adnewyddu

Mae Trustmark yn sefydliad 'dielw' a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n galluogi chwiliad ar-lein ar lefel cod post ar gyfer masnachwyr ag enw da lleol Dysgwch fwy am Trustmark.

Twyll eiddo

Dylech gofrestru eich eiddo gyda'r Gofrestrfa Tir a sicrhau bod manylion y perchennog yn gyfoes.

Darllenwch gyngor am ddiogelu eich tir a'ch eiddo rhag twyll..

Gostyngiadau TAW

Os ydych yn adnewyddu eiddo preswyl gwag, gallech fod yn gymwys i gael cyfradd TAW is o 5% ar gostau adnewyddu, fel y nodir yn Hysbysiad TAW 708 a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EM.

Os oes angen llythyr arnoch i'w gyflwyno i CThEM yn cadarnhau nad oes unrhyw un wedi byw yn yr eiddo am o leiaf ddwy flynedd, anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656 a gofynnwch am y Tîm Strategaeth a Chyflawni Tai.  

Camau gorfodi neu bwerau cyfreithiol i ddelio â chartrefi gwag

Mae cartrefi sy'n cael eu gadael yn wag am amser hir yn tueddu i ddirywio a gallant hefyd achosi problemau i gymdogion a'r gymuned leol. Gall gardd sydd wedi gordyfu, post y tu ôl i'r drws ac ymddangosiad o fod wedi'i esgeuluso’n gyffredinol, ddenu fandaliaeth neu drosedd. Os ydych yn berchen ar gartref gwag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw'n effeithio ar eich cymdogion na'ch cymuned. Chi sy'n gyfrifol am glirio unrhyw wastraff, hyd yn oed os bydd eraill yn ei waredu, ac am sicrhau bod yr eiddo'n ddiogel. 

Rydym yn deall bod rhai problemau'n anodd eu datrys a gall arwain at adael cartref yn wag am gyfnod. Fodd bynnag, os bydd eiddo'n parhau'n wag ac ymddengys nad oes unrhyw obaith rhesymol iddo gael ei feddiannu yn y dyfodol agos, mae’n bosibl y caiff awdurdod lleol reoli’r eiddo am hyd at 7 mlynedd, os caiff ei awdurdodi gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl i wneud hynny.  Dysgwch fwy am Orchmynion Rheoli Anheddau Gwag

Mewn rhai amgylchiadau, os oes tâl tir heb ei dalu wedi'i gofrestru yn erbyn yr eiddo, mae gan yr awdurdod lleol bwerau i alluogi gwerthu'r eiddo heb ganiatâd y perchennog.