Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Mae Sipsiwn a Theithwyr yn lleiafrif ethnig cydnabyddedig ac maent wedi byw yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd.

Mae llawer o Sipsiwn a Theithwyr bellach yn byw mewn llety sefydlog, ond mae eraill wedi dewis parhau â’r ffordd draddodiadol o fyw mewn carafanau. 

Safleoedd awdurdodedig

Mae nifer o safleoedd awdurdodedig preifat i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghasnewydd, sydd fel arfer yn berchen i un teulu sydd hefyd yn eu meddiannu.

Rhaid i unrhyw un sy’n datblygu safle preifat gael caniatâd cynllunio cyn symud i mewn iddo. 

Mae safle preswyl y mae’r Cyngor yn berchen arno yn Ellen Ridge, a gallwch gyflwyno cais am lain ar y safle hwn ar safle Home Options Newport. 

Mae’r polisi dyrannu safleoedd wedi’u mabwysiadu (pdf) yn nodi sut y dyrennir y lleiniau. 

Mae gan rai ardaloedd safleoedd dros dro sy’n cael eu defnyddio am gyfnod gan Sipsiwn a Theithwyr sy’n pasio trwodd, ond ar hyn o bryd does dim safle dros dro awdurdodedig yn ne ddwyrain Cymru.

Gwersylloedd anawdurdodedig

Mae gwersyll anawdurdodedig ar dir sy’n cael ei feddiannu gan Sipsiwn a Theithwyr heb ganiatâd y perchennog, fel arfer am gyfnod eithaf byr o amser.

Ynghyd â Heddlu Gwent a phartneriaid eraill, mae’r Cyngor wedi cofrestru i Brotocol Gwent Gyfan ar Reoli Gwersylloedd Anawdurdodedig.

Pwrpas y protocol yw:

  • cynnig canllawiau clir ar beth i’w wneud pan fydd hyn yn digwydd
  • sicrhau bod gwersylloedd yn cael eu trin mewn ffordd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth
  • cydbwyso hawliau’r rheiny sy’n meddiannu’r gwersyll anawdurdodedig gyda hawliau preswylwyr a busnesau lleol
  • gweithredu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar beth i’w wneud pan fydd hyn yn digwydd
  • hyrwyddo cydlyniad cymunedol ac atal Sipsiwn a Theithwyr rhag cael eu hallgáu yn gymdeithasol

Y Weithdrefn

Math y tir y mae’r gwersyll anawdurdodedig arno sy’n penderfynu pa gamau y gall y Cyngor eu rhoi ar waith:

Os yw ar dir nad yw’n eiddo i’r Cyngor gallwn roi cyngor i’r perchennog tir, ond bydd angen iddo ef roi camau gweithredu ar waith.

Os yw’r gwersyll ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor byddwn yn dilyn y weithdrefn ganlynol: 

  • ymweld â’r safle cyn gynted â phosibl a chynnal asesiad o gyflwr a lleoliad y safle, gan gynnwys unrhyw faterion allai ddod i’r amlwg i breswylwyr a busnesau lleol, ynghyd ag unrhyw anghenion lles y meddianwyr 
  • Bydd partneriaid perthnasol yn cael gwybod am y gwersyll. Defnyddir y wybodaeth a gesglir yn yr asesiad i wneud penderfyniad o ran p’un ai a ddylid goddef y gwersyll neu fynnu ei fod yn cael ei waredu 
  • Os gwneir penderfyniad i oddef y gwersyll anawdurdodedig, rhoddir cod ymddygiad i’r meddianwyr y disgwylir iddynt ei ddilyn. Os nad ydynt yn dilyn hyn, mae’n bosibl y gwneir penderfyniad i’w troi allan o’r gwersyll. 
  • Os penderfynir troi allan gwersyll, mae angen i'r Cyngor gyflwyno cais i'r llys i gael gorchymyn, gan egluro pam nad oes modd goddef y gwersyll Os cyflwynir gorchymyn, bydd hwnnw’n cael ei roi i’r gwersyll gan nodi erbyn pryd y bydd i ddeiliaid y gwersyll adael.

Adrodd

Os ydych yn gwybod am wersyll anawdurdodedig, rhowch wybod i Gyngor Dinas Casnewydd ar (01633) 656656 neu e-bostiwch [email protected]  

Datblygiadau anawdurdodedig

Mae datblygiadau anawdurdodedig yn cyfeirio at safleoedd sydd wedi’u datblygu heb ganiatâd cynllunio a dylid adrodd amdanynt i dîm cynllunio’r cyngor.  

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae Rhan 3 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gofyn i bob awdurdod lleol gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh) ar gyfer yr ardal a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

Mae ALlSTh Casnewydd, a gynhaliwyd yn 2015, wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac fe’i defnyddir yn rhan o’r gwaith cynllunio i fodloni anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr Casnewydd i’r dyfodol.

Lawrlwythwch Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Casnewydd (pdf) 

Cyngor a chymorth

Os ydych chi’n Sipsi neu’n Deithiwr yn byw yng Nghasnewydd ac yn chwilio am gymorth i ddod o hyd i lety addas, mae’n bosibl y gall y canlynol eich helpu chi:

  • Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr Gwent, 07909770456 and 0292278950 cymorth i ddod o hyd i lety addas a’i reoli 
  • Travelling Ahead, 08088 020025, www.travellingahead.org.uk: cymorth a chefnogaeth i Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw yng Nghymru. 

Cyswllt

E-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth. 

TRA103597 13/6/2019