Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi bod yn casglu gwrthrychau’n ymwneud â hanes, diwylliant ac amgylchedd Casnewydd ers 1888. Gan ddefnyddio hyn fel man cychwyn, mae'r artistiaid lleol Sarah Goodey, Dean Lewis a Kate Mercer wedi creu gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan y casgliad hwn a'r ddinas y maent yn byw ynddi.
Gan ddefnyddio ffotograffiaeth, darlunio a thecstilau, mae pob artist wedi defnyddio casgliad yr amgueddfa i archwilio'r effaith gafodd diwydiannu ar amgylchedd Casnewydd, ei phensaernïaeth ac yn bwysicaf oll, ei phobl. Yn byw’n lleol, mae'r artistiaid yn teimlo ei fod yn bwysig dathlu ein cymuned a'i threftadaeth ddiwydiannol. Yn cynnwys darnau o gasgliad yr amgueddfa ynghyd â’u gwaith, mae pob artist yn ceisio dod ag adegau pwysig yn hanes Casnewydd yn fyw.