Event Detail

Gwyl Fwyd Casnewydd

NFF_web_banner_eng
Bydd y Stryd Fawr a Marchnad Casnewydd yn dod yn fyw gyda detholiad o stondinau bwyd a diod sy'n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion i chi eu samplu a'u prynu.

Mae ein noddwr-gogydd Hywel Jones yn parhau i gefnogi’r digwyddiad a bydd y cogyddion lleol gorau yn brysur yng nghegin yr ŵyl, wedi’i leoli y tu mewn i Farchnad Casnewydd, sydd newydd ei hadnewyddu. Byddant yn gweini danteithion coginiol a fydd at ddant pawb.

Gallwch hefyd ymweld â’n pentref bwyd fegan yn Friars Walk am doreth o gynnyrch heb laeth a heb gig, a syniadau am ryseitiau.

Cadwch lygad am ddiweddariadau ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol!
Lleoliad Canol Dinas Casnewydd
Pris £0.00
Dyddiad/amser cychwyn Dydd Sadwrn 8 Hydref 2022, 09:00
Dyddiad/amser gorffen Dydd Sadwrn 8 Hydref 2022, 17:00
Cyswllt Newport Food Festival
Ffôn 01633 656656
E-bost [email protected]