Mae'r band roc a rôl 'The Bluejays' wrth eu boddau i fod ar y ffordd unwaith eto! Gan deithio gyda’u sioe newydd sbon 'Rave On: The Rise of Rock and Roll’, mae’r band yn dod â chlasuron o oesoedd aur cerddoriaeth bop mewn steil arbennig o wir i’r gwreiddiol.
Mae'r sioe yn cynnwys caneuon mwyaf poblogaidd y 1950au a'r 60au, gan bobl fel Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Eddie Cochran, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, Cliff Richard a llawer mwy.