Paentiodd Hans Feibusch gyfres o furluniau yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd sy'n darlunio hanes y rhanbarth ac mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn gofalu am gasgliad o ddarluniau paratoadol ar gyfer y gweithiau hyn.
Ymunwch â ni i gael gwybod mwy am y murluniau a'r brasluniau yn y sgwrs anffurfiol hon ar-lein. Cyflwynir y sgwrs dros Zoom a bydd yn para tua 30 munud, gyda rhywfaint o amser i ofyn cwestiynau wedyn.
Bydd y sgwrs yn Saesneg.