Gŵyl Gymraeg flynyddol yw Gŵyl Newydd, sydd wedi ei chynnal ar draws Casnewydd ers 2017. Ar ôl cael ei chanslo yn 2020 a 2021, ar 24 Medi 2022, bydd yr ŵyl yn dychwelyd fel y digwyddiad Cymraeg cyntaf mawr yng Nghasnewydd ers 2019.
Bydd digwyddiadau a gweithgareddau'n cael eu cynnal i'r teulu i gyd, a bydd yn creu cyfleoedd i ddysgwyr, siaradwyr, a'r chwilfrydig ryngweithio â'r iaith yn eu dinas eu hunain. Bydd stondinau hefyd yn y digwyddiad gan sefydliadau cymunedol a phartneriaid.