Ymunwch â gwirfoddolwyr yr Amgueddfa a’r Oriel Gelf Casnewydd Peter Brown a Mary Walker yn yr Oriel Gelf i weld casgliad preifat helaeth Peter o ddelweddau hanesyddol o Gasnewydd. Gwrandewch ar straeon Peter am Gasnewydd a rhannu ei frwdfrydedd dros hanes y ddinas.