Mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Winding Snake Productions wedi arwain prosiect hanes cymdeithasol i gofnodi etifeddiaeth gerddorol gyfoethog Casnewydd rhwng 1970 a 2010. Maent yn dathlu'r bandiau, y gigs, a'r lleoliadau y bu cenedlaethau o bobl Casnewydd yn eu profi gyda’r nos a'u clustiau'n canu.
Mae'r prosiect wedi golygu casglu memorabilia, recordio sain, a chreu animeiddiadau. Maent i gyd wedi’u casglu at ei gilydd yn yr arddangosfa wych – 'Casglu Roc Casnewydd'. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys eitemau gan Joe Strummer, Jon Langford, Dub War, 60ft Dolls, Terris, Elastica a Goldie Lookin Chain.