Arddangosfa wedi'i churadu gan Ray Stroud a David Osmond mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd. Mae Tyrfedd a Therfysg yn darlunio Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839 fel y'i cipiwyd gan artistiaid o'r gorffennol a'r presennol; gan archwilio'r olygfa gyfoes, y portreadau a'r coffáu. Mae'r sioe yn tynnu ynghyd waith o gasgliad celf Siartwyr trawiadol Amgueddfa Casnewydd ochr yn ochr â benthyciadau ac atgynyrchiadau helaeth. Mae Tyrfedd a Therfysg yn cynnwys caffaeliadau newydd pwysig a phortread o 1840 o Lieutenant Gray a adferwyd yn ddiweddar, a oedd ar un adeg yn addurno waliau Gwesty’r Westgate.
Bydd ‘Y Siartwyr yng Nghasnewydd: Hanes mewn Lluniau', sioe sleidiau o waith Ian Walker, yn cael ei chynnal yn Oriel Porth ochr yn ochr â'r brif arddangosfa.