Bydd Marathon a 10K Casnewydd ABP Casnewydd yn dychwelyd ar gyfer 2023 ddydd Sul 16 Ebrill.
Mae’r ras boblogaidd yn ffefryn mawr ar galendr rhedeg Cymru, gan frolio un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o’r holl orffenwyr wedi hawlio PB ar lwybr sy’n cynnig tirnodau eiconig, fel Pont Gludo’r ddinas a golygfeydd godidog Gwastadeddau Gwent – gyda’i bywyd gwyllt arfordirol a’i phentrefi canoloesol hardd.
Mae’r ras 10K gyflym a hwyliog, sy’n denu rhai o athletwyr gorau’r DU, yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan yn yr ŵyl redeg, heb ymrwymo i’r pellter heriol o 26.2 milltir.