Cabanau Hunter's Lodges, Gwesty'r Celtic Manor
Mae digon o le yn y cabanau ar gyfer wyth o bobl. Mae’r cabanau mewn ardal wledig, ynysig – y lle delfrydol i ymlacio neu aros gyda theulu neu ffrindiau, gyda digon o gyfleoedd i gerdded yn yr ardal gyfagos.
Mae pob caban yn cynnwys ardaloedd byw agored gyda ffenestri a nenfydau uchel, sy’n cynnwys lolfa, ystafell fwyta a chegin.
Yn ogystal â phedair ystafell wely – sy’n gallu cael eu defnyddio fel ystafelloedd dwbl neu ystafelloedd gyda dau wely - mae gan bob caban sawna, decin awyr agored a jacuzzi.
Gall preswylwyr y cabanau fwynhau holl gyfleusterau Gwesty’r Celtic Manor, gan gynnwys y bwytai, y barrau a’r adnoddau i deuluoedd - cwrs rhaffau uchel Forest Jump, golff gwallgof, pyllau nofio dan do, sba, cyrtiau tennis, ymladd laser, saethyddiaeth a gweithgareddau clwb plant.
Cabanau Hunter’s Lodges
Gwesty’r Celtic Manor
Coed Coldra, Casnewydd, De Cymru NP18 1HQ
Ffôn: +44 (0)1633 413000
Ffacs: +44 (0)1633 412910
Gwefan: www.celtic-manor.com
|
Bwytai
|
Trwydded gweini alcohol
|
Parcio preifat
|
Cyfleusterau hamdden cynhwysfawr
|
Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig
|
Teledu
|
Tywelion a llieiniau yn rhan o’r pris
|
Pecyn croeso
|
Basgedi bwyd
|
Gwobr Welcome Host
|
Gwobr Aur Croeso Cymru
|
Cyfleusterau golchi dillad
|
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
|
Sawna a jacuzzi preifat
|
Gorsaf drenau gerllaw
|