Old Barn Inn
Mae tafarn yr Old Barn Inn wedi ei leoli yng nghefn gwlad.
Dyma’r lle delfrydol i’r rheiny sydd eisiau ymweld â mynyddoedd, afonydd a llynnoedd hyfryd De Cymru. Mae yna nifer o gyrsiau golff a chyfleusterau hamdden gerllaw, gan gynnwys Gwesty’r Celtic Manor, lle cynhaliwyd Cwpan Ryder 2010.
Mae’r ystafelloedd, sydd wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar, yn cydweddu â’r dafarn a’r bwyty gwledig.
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell gyfarfod a chyfleusterau cynadledda preifat, ac mae brecwast Cymreig llawn ar gael i breswylwyr.
Mae’r ystafelloedd a’r switiau en-suite unigryw wedi’u haddurno mewn arddull fodern a’r gwelyau wedi’u gorchuddio gan lieiniau cotwm Eifftiaidd, tra bod gan Swît Penhow falconi a theledu yn yr ystafell ymolchi.
Mae gan yr Old Barn Inn bum ystafell wely ddwbl / gyda dau wely, 8 ystafell wely ddwbl (sy’n gallu cael eu defnyddio fel ystafelloedd sengl), un swît sylfaenol ac un swît briodasol (Swît Penhow).
The Old Barn Inn
Magor Road
Llanmartin
Casnewydd
NP18 2EB
Ffôn: +44 (0)1633 413382
Ffacs: +44 (0)1633 412804
E-bost: theoldbarninn@btconnect.com
Gwefan: www.theoldbarninn.com
Trwydded gweini alcohol
|
Parcio preifat
|
Ystafelloedd en-suite
|
Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig
|
Croesewir plant
|
Gardd
|
Ystafelloedd ar y llawr gwaelod
|
Arhosfan bws gerllaw
|
Teledu yn yr ystafell wely
|
Cyfleusterau gwneud te a choffi
|
Croesewir digwyddiadau preifat
|
Blwch arian diogel
|
Croesewir cerddwyr
|
Croesewir beicwyr
|
|