Holiday Inn

Holiday-Inn-Coldra

Mae Holiday Inn Casenwydd ger cyffordd 24 yr M4. Dyma’r lle delfrydol i gynnal cyfarfod busnes, seminar neu ddigwyddiad. Os oes gennych 10 neu 460 o fynychwyr, mae gan y gwesty ystafelloedd hyblyg ar eich cyfer chi a’ch gwesteion.

Fel Holiday Inn gwasanaeth llawn, bydd gwesteion yn elwa o barcio rhad ac am ddim a mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd trwy gydol y gwesty. Mae bar a bwyty Harpers yn gweini detholiad o fwyd lleol a rhyngwladol, yn ogystal â dewis eang o goffi. Mae croeso i westeion ddefnyddio’r gampfa a’r pwll nofio trwy gydol eu harhosiad.

Mae’r 119 ystafell welly yn cynnwys cymysgedd o ystafelloedd gyda dau wely, ystafelloedd dwbl ac ystafelloedd teulu, ac mae modd gwneud cais am ystafell hygyrch wrth drefnu arhosiad.

Mae’r gwesty wedi’i leoli mewn tair erw o dir heddychlon. Os ydych yn ymweld â Chasnewydd at ddiben busnes neu hamdden, byddwch yn sicr o gael noson dda o gwsg a brecwast bys a bawd y bore canlynol.

Ystafelloedd: 119 - 3 ystafell sengl, 101 ystafell ddwbl, 10 ystafell driphlyg, 5 ystafell deulu

Holiday Inn

Coldra
Casnewydd
De Cymru
NP18 2YG
Ffôn: +44 (0)1633 412777
Ffacs: +44 (0)1633 411600

E-bost: [email protected]

Gwefan: www.hinewport.co.uk

 

Bwyty

Trwydded gweini alcohol

Parcio preifat

Cyfleusterau hamdden

Cyfleusterau golchi dillad

Teledu yn yr ystafell wely

Cyfleusterau gwneud te a choffi

Ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod

Aerdymheru

Gardd

Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig

Gorsaf drenau gerllaw

Arhosfan bws gerllaw